Mae’r llwybr tuag i fyny’n sicr werth yr ymdrech ar y daith gylchol fer yma… ond gan bwyll ar y tir garw!
Peidiwch â phoeni os ydych chi’n newydd i’r byd beicio neu os nad oes gennych eich beic eich hun, mae beics ar gael i logi i oedolion a phlant, a threlars beics hefyd.
Mwynhewch antur gwerth chweil ar y llwybr fer yma o amgylch Argae Brenig, a fydd yn cymryd tua hanner awr i’w gwblhau.
Cyfeirnod Map yr Arolwg Ordnans SH977546.
Ewch yn syth am yr argae o’r Ganolfan Ymwelwyr, trowch i’r chwith a mwynhewch yr olygfa o’r llyn wrth groesi'r argae.
Trowch i'r dde a dilynwch y trac i'r giât ar y gwaelod – trac graean yw hwn yn bennaf, felly gwnewch yn siiŵr bod eich brêcs yn gweithio'n dda.
Trowch i'r dde eto, a chymrwch ofal wrth ddilyn y ffordd.
Mae'r bryn yn dipyn o slog, ond ar y copa, aroswch i ddal eich gwynt a mwynhau'r golygfeydd bendigedig. Trowch i'r dde trwy'r giât, ac yn ôl i lawr y bryn i gael eich gwynt atoch.
Trowch i'r chwith wrth ymyl yr argae, a dyna chi nôl yn y man cychwyn.
5m / 8km. Beiciwch yn galed i fyny’r bryn, mwynhewch olygfeydd godidog o’r llyn cyn igam-ogamu i lawr ar hyd llwybr y goedwig.
• EWCH I’R LLWYBR •9.5m / 15km. Wrth feicio cewch fwynhau golygfeydd godidog dros y dŵr ac amgylchedd bendigedig y gors.
• EWCH I’R LLWYBR •14.5m / 23km. Beiciwch i fyny i Warchodfa Natur Gors Maen Llwyd, gan igam-ogamu ar hyd y llwybrau, croesi’r pontydd, ac edmygu glannau prydferth Alwen.
• EWCH I’R LLWYBR •