Beth i’w ddisgwyl ar Ymweliad Ysgol
Amgylchedd sy’n ysbrydoli, does yna’r un lle gwell i ddysgu am ddŵr nac yn yr awyr agored.
Gwyliwch ein fideo i gael blas ar ein hymweliadau i ysgolion yn y Gogledd.
Mae dŵr yn anhygoel, ond faint ydych chi’n ei wybod amdano? Ydych chi’n gwybod o ble mae’n dod? Neu sut mae’n cyrraedd eich tap? Beth am sut rydyn ni’n gwneud dŵr yn ddiogel i’w yfed? Neu’r ffordd orau o’i arbed?
Yn Llyn Brenig, rydyn ni’n gweithio gydag ysgolion i annog plant i garu a gwerthfawrogi dŵr. Mae ein hymweliadau i ysgolion, sy’n cael eu harwain gan athrawon cynradd ar secondiad, yn taclu’r disgyblion i fod yn ddinasyddion byd-eang, â dealltwriaeth am gynaliadwyedd a’i effaith ar y gymuned leol.
Mae ein hadnoddau dysgu yn cael eu datblygu’n barhaus i gwmpasu pob cyfnod allweddol yn y cwricwlwm cenedlaethol.
Yn ystod cyfnod clo COVID-19, rydyn ni’n mynd â’n hymweliadau i ysgolion yn uniongyrchol i gartrefi’r disgyblion trwy ein darpariaeth electronig. Ein nod yw dychwelyd at ymweliadau wyneb yn wyneb o fis Medi 2021 ymlaen.
I gyflwyno ymholiad, cliciwch ar y botwm isod neu cysylltwch â’n tîm yn education@dwrcymru.com
Amgylchedd sy’n ysbrydoli, does yna’r un lle gwell i ddysgu am ddŵr nac yn yr awyr agored.
Gwyliwch ein fideo i gael blas ar ein hymweliadau i ysgolion yn y Gogledd.