Lleoliad 2500 erw wrth galon Gogledd Cymru yw Llyn Brenig. Yma mae canolfan ymwelwyr wedi ei hamgylchynu gan goedwigoedd, llynnoedd a rhostiroedd.
Diolch i’n lleoliad, maint, golygfeydd naturiol a’n cyfleusterau, hwn yw’r lle delfrydol i’w logi. Gallwn ddarparu ar gyfer achlysuron corfforaethol, dathliadau lansio cynnyrch a digwyddiadau chwaraeon pwysig. Mae hi’n lleoliad gwych ar gyfer ffilm a theledu hefyd.
Rydyn ni wedi croesawu achlysuron chwaraeon eraill o safon ryngwladol yma hefyd, gan gynnwys Rali Cymru GB.
Mae Cymru’n brysur ennill enw da am gynnal achlysuron diwylliannol a chwaraeon o safon ryngwladol. Mae hi wedi dod yn hoff leoliad i ffilmio cynyrchiadau ffilm a theledu lleol a rhyngwladol hefyd. Mae Hollywood wedi manteisio’n llwyr ar holl fanteision ffilmio yn y Gogledd, gyda chynyrchiadau mawreddog yn cael eu ffilmio ar stepen ein drws. Gallwn gynnig cefndiroedd bendigedig unigryw, a’r holl gymorth sydd ei angen ar gynyrchiadau bach a mawr.
Rydyn ni am i chi fwynhau’r golygfeydd hynod a chadw atgofion melys, ond ni chaniateir hedfan dronau dros unrhyw un o’n lleoliadau unrhyw bryd heb ganiatâd Dŵr Cymru. Os ydych am wneud cais am ganiatâd a chael rhagor o fanylion am y rheoliadau, y cynghorion a’r trwyddedau fydd eu hangen arnoch, dylech gysylltu â press@dwrcymru.com.
Mae gennym ni’r capasiti i gynnal achlysuron chwaraeon o safon ryngwladol yma. Gellir cynnal y rhain ar y tir neu ar y dŵr, ac maen nhw’n cynnwys achlysuron rhedeg, beicio, hwylio a physgota. Un o’r achlysuron chwaraeon a gynhaliwyd yma’n ddiweddar oedd Rali Cymru GB. Hwn yw’r rali ceir mwyaf ac uchaf ei broffil yn y DU. Mae’n un o rowndiau Pencampwriaeth Rali’r Byd yr FIA ac roedd yn arfer bod yn un o rowndiau Pencampwriaeth Rali Prydain yr MSA yn y Gogledd.
Dewch allan o’r swyddfa, mwynhewch fyd natur ac ailgysylltwch fel tîm yn Llyn Brenig. Mae gennym amrywiaeth o gyfleusterau cynnal cyfarfodydd ac achlysuron sydd ar gael i’w llogi. Mae Ystafell Hiraethog yn gallu darparu ar gyfer hyd at 24 o bobl ar ffurf darlith neu 12 ar ffurf ystafell gyfarfod. Mae Porthdy’r Goedwig yn lle llai, ac yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfod o hyd at 6 person, neu ar gyfer gweithgareddau grŵp. Ac â 2500 erw o le allan yn yr awyr agored, mae digonedd o le i gynnal sesiynau grŵp yn yr awyr agored.
• MANYLION PELLACH •