Pysgota am Benhwyaid - Llyn-Brenig

Bchwch!

Pysgota am Benhwyaid

yn Llyn Brenig

Bchwch!

Pysgota am Benhwyaid

yn Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Pysgota am Benhwyaid


Er ein bod ni’n fwyaf adnabyddus am bysgota â phlu yn Llyn Brenig, rydyn ni’n cynnig pysgota am benhwyaid bob blwyddyn rhwng Hydref a Mawrth hefyd.

Yn ogystal â physgota gwych, mae caffi a siop pysgota arbenigol yn Llyn Brenig.

Dilynwch ein tudalen Facebook Fishing at Brenig.

Ar Drywydd y Record 47 pwys 5 owns yn Llyn Brenig


Ar hyn o bryd, Lloyd Watson sy’n dal record Prydain am ddal penhwyad â gwialen am ei ddalfa 47 pwys 5 owns yn Llyn Chew Valley yn Chwefror 2024. Am ddegawdau, record Cymru oedd ar y brig, am benhwyad 46 pwys 13 owns a ddaliwyd yn Llyn Llandegfedd, sy’n profi bod gan gronfeydd Cymru’r ecosystem i gynhyrchu ysglyfaethwyr o safon ryngwladol.

Nawr mae llygaid pawb ar Lyn Brenig fel y llyn a allai dorri’r record nesaf.

Pam Llyn Brenig?


Fel un o ddyfroedd mewndirol mwyaf Cymru, mae Llyn Brenig yn darparu’r amgylchedd perffaith i benhwyaid dyfu’n anferth.

Y Ffynhonnell Bwyd: Fel pysgodfa frithyll o’r radd flaenaf, mae’r llyn yn cynnig diet o frithyll seithliw a brown sy’n uchel mewn protein ar gyfer y penhwyaid, sy’n caniatáu iddynt fagu pwysau’n gyflym.

Bwystfilod y Llyn: Cofnodwyd penhwyaid dros 40 pwys eisoes. Mae pysgotwyr lleol ac arbenigwyr yn credu ei bod hi’n bosibl bod pysgodyn digon mawr i dorri record Prydain yn llechu yn y dyfnderoedd.

Cynefin Delfrydol: Gyda 23km o lannau a dŵr dwfn helaeth, mae digonedd o le i’r penhwyaid dyfu heb ymyrraeth.


Oes gennych chi’r nodweddion i dorri record Prydain?

Cynlluniwch Eich Ymweliad i Dorri’r Record


Os daliwch chi benhwyad sy’n pwyso tua 47 pwys, cysylltwch â’r ganolfan ymwelwyr a byddwn ni’n gallu helpu.


Casglwch dystiolaeth glir

Tynnwch luniau o safon o’r pysgodyn (o’r ochr, sy’n dangos y corff cyfan)
Tynnwch lun o’r pysgodyn ar y glorian gyda’r pwysau’n glir i’w gweld. Gallwn ddarparu clorian wedi ei chalibro a’i hardystio i bwyso’r pysgodyn yn fanwl gywir.
Mesurwch hyd a chwmpas y pysgodyn os oes modd.
Rhaid cael o leiaf un tyst annibynnol i’r pwysau (a mwy nag un yn ddelfrydol).

Gofalwch am y pysgodyn

Ymdriniwch ag e’n ofalus a’i gadw’n wlyb.
Os yw’r rheolau’n caniatáu, gellir dychwelyd y pysgodyn yn fyw ar ôl ei bwyso a thynnu lluniau.
Lles sydd bwysicaf bob tro – ni fydd pysgodyn marw â thystiolaeth wael yn helpu eich cais.

Cofnodwch y manylion

Nodwch y dyddiad, lleoliad, dull, abwyd/llith, ac enwau/manylion cyswllt y tystion.

Cyflwynwch y cais

Mae’r manylion llawn ar gael trwy Bwyllgor Record Pysgota Prydain ar wefan yr Ymddiriedolaeth Pysgota (Angling Trust) – mae hi’n syniad da cadw’r linc cyn mynd i bysgota.

https://anglingtrust.net/get-involved/record-fish/

Rhaid cyflwyno’r caisd o fewn y cyfnod angenrheidiol (peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr).


Rheolau a Thactegau Allweddol


Llithiau ac Abwyd

Abwyd dros 6 modfedd (15.2cm) neu abwyd môr marw (dim lampreiod na brwyniaid) yn unig a ganiateir.


Cadwraeth

Mae Llyn Brenig yn gweithredu polisi dal a rhyddhau llym ar gyfer yr holl benhwyaid er mwyn sicrhau eu bod nhw’n parhau i dyfu tua’r pwysau mawr yna.


Pysgota Dros Nos

Ar gael i bysgotwyr mwy mentrus sydd am ddal ysglyfaethwyr adeg y prif oriau bwydo gyda’r gwyll a gyda’r wawr.


Rhaid dilyn y Cod Moeseg a’r Amodau a Thelerau ar bob cam o’ch antur Pysgota Penhwyaid yn Llyn Brenig.

Pysgota Penhwyaid


Mae’r tymor penhwyaid yn Llyn Brenig yn rhedeg o Hydref i Fawrth fel rheol, ac mae pysgota o’r lan ac o gychod ar gael.

Rhaid i bysgotwyr fwcio o leiaf diwrnod ymlaen llaw.


Tymor Pysgota Penhwyaid

Pysgota o’r Lan: 1 Hydref 2025 – 1 Mawrth 2025
Pysgota o Gychod: 1 Hydref 2026 – 30 Tachwedd 2026.


Pysgota o’r Lan

Lawrlwythwch Fap o’r Pegiau i helpu i ddewis lleoliad i bysgota.


Pysgota o Gwch

Gallwch bysgota am benhwyaid trwy logi un o’n cychod yn Hydref a Thachwedd hefyd.

Mae Cychod Hwylus i Gadeiriau Olwyn ar gael i’w llogi, ond nid ydynt yn addas ar gyfer cadeiriau trydan. Cysylltwch â ni am fanylion ac argaeledd.


Pysgota Penhwyaid Dros Nos

Pysgotwch am benhwyaid dan y sêr yn Llyn Brenig.

Mae pegiau ar gael rhwng 6pm a 7am.

Uchafbwyntiau Eraill


Y Siop Bysgota

Yn ein Siop Pysgota ar y safle mae gennym bopeth sydd ei hangen arnoch i fynd allan ar y dŵr. Dyma’r lle gorau i brynu Hawlenni Pysgota a Thacl.

• MWY •

Caffi Glan y Llyn

Dewch i adfywio yng Nghaffi Glan y Llyn yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig. Ar agor am rolion cig moch, cinio neu rhywbeth bach ganol prynhawn. Cewch aros i mewn neu fynd â’ch bwyd a diod allan a mwynhau’r golygfeydd.

• MWY •

Arddangosfa’r Gweilch

Lledaenwch eich adennydd i bori trwy’r arddangosfa yn y Ganolfan Ymwelwyr. Cewch ddysgu am hanes y prosiect a dilyn ein hadar ar hyd y tymhorau.

• MWY •

Pysgota Penhwyaid


O’r Lan

1 Hydref 2024 – 1 Mawrth 2025

O Gwch

1 Hydref – 24 Tachwedd 2024


Did you know that pike as large as 30lbs have been caught at the lake? 

Mae Llyn Brenig yn cynnig pysgota penhwyaid anhygoel o gwch neu begiau.

Caniateir defnyddio abwyd môr marw a llithwyr pysgota dros 6 modfedd dros y gaeaf, ac mae yna opsiwn am bysgota dros nos i’r pysgotwr eofn.

Rhaid i bysgotwyr fwcio o leiaf diwrnod ymlaen llaw. Os ydych chi’n pysgota o’r lan gallwch lawrlwytho Map o’r Pegiau i’ch helpu i ddewis lleoliad eich peg pysgota.  Fel arall, gallwch logi cwch a physgota am benhwyaid ar Lyn Brenig.

 

 

 

Mae cychod Hygyrch i Gadeiriau Olwyn ar gael i’w llogi (anaddas i gadeiriau olwyn trydan). Cysylltwch â ni am fanylion ac argaeledd.

Rhaid dilyn y Cod Moeseg a’r Amodau a Thelerau ar bob cam o’ch antur Pysgota Penhwyaid yn Llyn Brenig.

• ARCHEBWCH PYSGOTA PECHOD (Hydref – Mawrth yn Unig) •


Pysgota Penhwyaid Dros Nos

Pysgotwch am benhwyaid dan y sêr yn Llyn Brenig.

Mae pegiau ar gael rhwng 6pm a 7am.

£50 y pysgotwr am ddwy wialen

£12 am bob gwialen ychwanegol

Hyd at dair gwialen y peg

Digwyddiadau i ddod

18-20
Dec
Llwybr Goleuadau’r Nadolig a Grot Siôn Corn

Ymunwch â ni yn Llyn Brenig am noson arbennig i’r teulu’r Nadolig hwn.

• DARLLEN MWY •
28
Dec
Cystadleuaeth Pysgota Nadolig

Ymunwch â ni am Gystadleuaeth Pysgota Nadolig Llyn Brenig.

• DARLLEN MWY •
1-31
Apr   Dec
Cystadleuaeth Pysgota Tag

Ffeindiwch dag a bachwch ddiwrnod o logi cwch am ddim. Mae’n RHAD AC AM DDIM!

• DARLLEN MWY •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR