Mae cymaint o deithiau gerdded hyfryd. Lle bendigedig i dreulio amser fel teulu!
Google- 2020
Llyn Brenig yw un o’r llefydd mwyaf poblogaidd i fynd am dro yng Nghonwy. Mae dewis da o lwybrau cerdded, a phob un yn cynnig golygfeydd godidog.
Mae mapiau cerdded ac awgrymiadau da ar gyfer ein holl Lwybrau Cerdded ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr sy’n gallu darparu’r holl wybodaeth a chyfleusterau y bydd eu hangen arnoch i fwynhau eich diwrnod, gan gynnwys caffi sy’n edrych allan dros y dŵr.
Dylid nodi bod y gwasanaeth ffôn poced yn wael ar bob rhwydwaith yn yr ardal hon.