Hawlenni Pysgota a

Thacl

yn Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Y Siop Bysgota


Gwrandewch ar gynghorion staff y siop bysgota a holwch y gweithwyr sydd fel arfer yn gweithio ar y cewyll meithrin pysgod neu o gwmpas y bad achub – maen nhw’n hen lawiau ar yr drifftiau gorau i’w pysgota a’r baeau mwyaf cysgodol ar ddiwrnodau gwyntog.

Skycity090

Llyn Brenig yw un o bysgodfeydd pen dŵr gorau Prydain. Gyda 23km o lannau, dyma un o leoliadau pysgota gorau Conwy. Yn ein Siop Bysgota ar y safle, rydyn ni’n stocio popeth sydd ei hangen arnoch i fynd allan ar y dŵr i fachu pysgodyn. Dyma’r lle gorau i brynu Hawlenni Pysgota a Thacl Pysgota, sgroliwch i lawr am ragor o fanylion ac i weld y Prisiau Pysgota.

Cofiwch, y ffordd orau o bysgota’r llyn yw mewn cwch. Argymhellir bwcio er mwyn osgoi siom. Yn syml, cliciwch ar y botwm bwcio nawr.

 

Pysgota Phlu

Gallwch brynu hawlenni yn y siop bysgota ar y safle gan ddefnyddio dulliau talu digyswllt. Gallwch eu prynu o’r peiriannau yn y maes parcio hefyd. Dylid nodi nad yw’r peiriannau’n derbyn arian papur na chardiau felly dewch â digon o arian parod. Nid oes angen i bysgotwyr sy’n prynu hawlenni dalu’r tâl parcio. Mae hawlenni Cronfa Alwen yn caniatáu ar gyfer pysgota brithyll â throell, plu naturiol ac un abwydyn naturiol yn unig, ac eithrio i’r gogledd o’r bont, lle caniateir plu yn unig.

Tacl Pysgota Llyn Brenig

Mae amrywiaeth eang o dacl, abwyd artiffisial a llithwyr ar gael i’w prynu, ynghyd â chyngor arbenigol gan staff y siop. Rydyn ni’n stocio amrywiaeth o ddillad gan rai o’r brandiau gorau. Rydyn ni’n deall pa mor bwysig yw bod yn gyffyrddus wrth bysgota. Mae ein dewis gwych o ddillad am bob tymor yn sicrhau y gallwch berfformio hyd eithaf eich gallu.

Uchafbwyntiau Eraill


Pysgota

O 1 Tachwedd bob blwyddyn, mae Llyn Brenig yn cynnig pysgota penhwyaid anhygoel. Caniateir abwyd môr marw a llithwyr dros 6 mis dros y gaeaf. Y ffordd orau o bysgota’r llyn yw mewn cwch.

• RHAGOR O FANYLION •

Hwylio

Cartref Clwb Hwylio uchaf Gogledd Cymru, mae amodau gwyntog y llyn yn ddelfrydol i hwylwyr newydd ac anturus. Mae ein Clwb Hwylio’n cynnal sesiynau hyfforddi trwy gydol y tymor.

• RHAGOR O FANYLION •

Caffi Glan y Llyn

Mwynhewch ddiod gynnes, cacen gartref neu bryd poeth o’n bwydlen dymhorol flasus, gyda golygfeydd bendigedig dros Lyn Brenig yng Nghaffi Glan y Llyn.

• RHAGOR O FANYLION •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU