Mae hi’n amser cyffrous iawn i ymuno â ni am yrfa gyda Dŵr Cymru. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn buddsoddi yn ein canolfannau ymwelwyr er mwyn gwella’r cyfleusterau a’r ddarpariaeth ar gyfer ein cwsmeriaid. Rydyn ni’n parhau i wario miliynau o bunnoedd ar ein rhaglen wella ar draws ein safleoedd ac ar gynllunio cyfleusterau hamdden newydd at y dyfodol. Ein huchelgais yw creu dyfodol cynaliadwy ar gyfer ein hatyniadau ymwelwyr fel hybiau ar gyfer mwynhad ac iechyd a lles, gan ailgysylltu pobl â’n hamgylchedd prydferth. Cliciwch ar y botwm isod i weld y swyddi sydd ar gael yn Llyn Brenig, nodwch eich cyfeiriad e-bost a byddwn ni’n rhannu gwybodaeth sy’n cyd-fynd â’ch diddorddebau, neu sgroliwch i lawr i ddysgu rhagor am Ddŵr Cymru.
Rydyn ni’n denu dros 600,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’n pedair prif ganolfan ymwelwyr yn rhai o leoliadau prydferthaf Cymru.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau a gweithgareddau, gan gynnwys chwaraeon dŵr, beicio mynydd, pysgota, cerdded, a phaned neu bryd blasus yn ein bwytai wrth fwynhau rhai o olygfeydd mwyaf bendigedig Cymru. Mae ein canolfannau ymwelwyr yn cynnig cyfle unigryw i ni gysylltu â’n cwsmeriaid a’n hymwelwyr mewn amgylchedd prydferth wrth ategu hunaniaeth ein brand a’n model busnes unigryw. Rydyn ni’n falch o’r rôl bwysig y mae ein canolfannau ymwelwyr yn ei chwarae wrth wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer addysg, cadwraeth a bioamrywiaeth.
Mae beth rydyn ni’n ei wneud yn Dŵr Cymru’n bwysig dros ben – rydyn ni’n darparu dŵr diogel a glân ar gyfer tair miliwn o gwsmeriaid, yn cludo eu dŵr brwnt i ffwrdd ac yn helpu i amddiffyn ein hamgylchedd prydferth.
Mae hi’n gyfrifoldeb a hanner, ac mae angen i ni ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd. Mae’r ffaith taw ni yw’r unig gwmni nid-er-elw yn y diwydiant dŵr yn sicr yn ddechrau da. Mae pob un geiniog a wnawn yn mynd yn ôl i ofalu am eu dŵr a’r amgylchedd, yn hytrach na mynd i bocedi cyfranddeiliaid.