Mae nifer gynyddol o Anturiaethau Dŵr Cymru ar gael ar draws Cymru.
Mae pob un ym mherchnogaeth ac yng ngofal Dŵr Cymru i chi eu mwynhau. Maen nhw’n hybiau ar gyfer iechyd, lles a hamdden, sy’n eich ailgysylltu â byd natur a’r dŵr. Mae’r rhain yn rhai o’r lleoliadau mwyaf bendigedig, maen nhw’n cynnig mynediad am ddim ac yn agored trwy gydol y flwyddyn.
Dewiswch eich Antur Dŵr Cymru
Mae Dŵr Cymru’n gweithredu 91 o gronfeydd dŵr, sy’n amrywio mewn maint o 2 i 1,026 erw. Mae’r rhain yn cynnwys portffolio cenedlaethol o Atyniadau Ymwelwyr o’r enw ‘Anturiaethau Dŵr Cymru’. Hybiau ar gyfer iechyd, lles a hamdden ydyn nhw. Maen nhw’n ailgysylltu pobl â’r dŵr a’r amgylchedd, wrth gynnal, amddiffyn a chyfoethogi gwerth ecolegol pob safle.
Dŵr Cymru yw’r mwyaf ond pump o’r deg cwmni dŵr a charthffosiaeth rheoledig yng Nghymru a Lloegr. ‘Cwmni nid-er-elw’ yw Dŵr Cymru ac nid oes unrhyw gyfranddeiliaid ganddo. Mae unrhyw elw sydd dros ben yn cael ei ailfuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid.
Wrth galon Bryniau Cambria, mae Cwm Elan yn cynnig 72 milltir sgwâr o olygfeydd hynod brydferth. Mae’r tirweddau naturiol, sy’n gartref i dorreth o blanhigion a bywyd gwyllt yn fwy deniadol byth diolch i’r cronfeydd a’r argaeau o Oes Fictoria, a’r Ganolfan Ymwelwyr groesawgar. Fel Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol, mae prydferthwch Cwm Elan yn disgleirio ddydd a nos.
Wrth galon prydferthwch Dyffryn Gwy, cwta 20 milltir o Gaerdydd, Llyn Llandegfedd yw’r lle delfrydol i fwynhau chwaraeon dŵr, pysgota, cerdded, gwylio bywyd gwyllt a chael picnic. Y lle delfrydol i fynd â’ch ci am dro am fod croeso i gŵn fwynhau’r golygfeydd bendigedig o falconi’r bwyty neu orffwys eu pawennau yn y Caffi Coffi Cyflym.
Mae’r perl newydd sbon yma yng nghoron Sir Benfro newydd ail agor. Bu modd cyflawni ailddatblygiad £5m Llys-y-Frân, sy’n sefyll wrth droed Bryniau Preseli yn Sir Benfro, diolch i gyfraniad o £1.7 miliwn o Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru. Mae Llyn Llys-y-Frân yn cynnig dros 350 erw i ymwelwyr eu crwydro ar droed wrth fynd â’u cŵn am dro, ar gefn beic neu allan ar y dŵr. Mae’r safle’n agored trwy gydol y flwyddyn ac mae’n cynnig mynediad am ddim. Mae’r safle’n cynnig canolfan ymwelwyr a chaffi sydd wedi cael eu hailwampio, canolfan gweithgareddau awyr agored newydd sbon, llwybrau beicio sy’n igam-ogamu trwy’r goedwig a thrac sgiliau pympio newydd. Mae cawodydd, cyfleusterau newid ac ystafelloedd cyfarfod â golygfeydd bendigedig ar gael ar y safle hefyd.
Mae gwaith helaeth yn cael ei wneud i adfer cronfeydd dŵr Caerdydd i’w hen ogoniant. Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill i greu hyb ar gyfer iechyd, lles a hamdden yn y brifddinas.
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag amryw o gymunedau a sefydliadau, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i greu hybiau ar gyfer hamdden, iechyd a lles. Mae hyn yn cyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac ‘adferiad gwyrdd’ yng Nghymru.
Lleolir Cronfeydd Dŵr Cwm Lliedi ar gyrion Llanelli yn Sir Gâr, ac maen nhw’n fan prydferth a phoblogaidd i ymwelwyr. Mae Cyngor Gwledig Llanelli wedi mabwysiadu’r safle’n ddiweddar yn rhan o gynllun mabwysiadu arloesol.
Mae Cronfeydd Lliw yn safle o brydferthwch naturiol eithriadol ac yn rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd, un o’r tirweddau nodwedd arbennig sy’n diffinio Cymru. Mae caffi, siop fach a thoiledau ar y safle.
Llyn Alaw yw’r llyn dŵr croyw mwyaf ar Ynys Môn. Mae’n lle arbennig i adaryddwyr ac mae’n SoDdGA diolch i’r adar dŵr sy’n treulio’r gaeaf yno, y corhwyaid, yr hwyaid llydanbig ac elyrch y Gogledd. Nid oes unrhyw gyfleusterau i ymwelwyr yn Llyn Alaw, a’r ffordd orau o gyrraedd y lle yw ar droed.
Casgliad mwyaf y DU o bympiau a pheiriannau gweithredol o bob rhan o Sir Henffordd, y siroedd cyfagos a Chymru. Yr esiamplau olaf o’u math yw llawer o’r rhain. Peirianneg treftadaeth ar ei orau – a gwirfoddolwyr sy’n rhedeg y lle.
Mae Llyn Brianne yn un o gwta naw Safle Darganfod yr Awyr Dywyll o Safon y Llwybr Llaethog am fod ei awyr nosol gyda’r tywyllaf yn Ewrop. Yma gallwch fwynhau syllu ar burdeb awyr y nos.