Ewch amdani

Gwirfoddolwch

Anturiaethau Dŵr Cymru

Gan Dŵr Cymru

Cyfeillion Llyn Brenig


Mae Llyn Brenig ym mherchnogaeth a dan reolaeth Dŵr Cymru, sy’n gyfrifol am warchod yr amgylchedd yma.

Rhan o’n gweledigaeth 2020 yw cynnal bioamrywiaeth ac ecosystemau a gwneud y gorau o’r tir, y dŵr a’r asedau sydd yn ein gofal.

Y nod yw creu hybiau ar gyfer iechyd, lles a hamdden i chi eu mwynhau, gan eich ailgysylltu â’r awyr agored, y dŵr a’r tir. Rydyn ni wrthi’n ymchwilio i ffyrdd o weithio gyda gwirfoddolwyr i wireddu’r weledigaeth hon.

Rydyn ni’n gobeithio rhannu rhagor o wybodaeth â chi’n fuan, ond yn y cyfamser, os oes unrhyw ymholiadau gennych am wirfoddoli yn y Llyn Brenig, anfonwch neges e-bost at volunteer@dwrcymru.com

 

Uchafbwyntiau Eraill


Pysgota

O 1 Tachwedd bob blwyddyn, mae Llyn Brenig yn lle gwych i bysgota penhwyaid. Caniateir abwyd môr marw a llithwyr dros 6 mis y gaeaf. Y ffordd orau o bysgota’r llyn yw mewn cwch.

• MANYLION PELLACH •

Hwylio

Yn gartref i Glwb Hwylio uchaf y Gogledd, mae’r amodau’n aml yn wyntog yma, sy’n berffaith i hwylwyr newydd ac anturus.

• MANYLION PELLACH •

Caffi Glan y Llyn

Mwynhewch ddiod gynnes, cacen gartref neu bryd poeth o’n bwydlen dymhorol flasus, gyda golygfeydd bendigedig dros Lyn Brenig yng Nghaffi Glan y Llyn.

• MANYLION PELLACH •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU