Dewch i fwynhau’r dŵr.
 digon o ddŵr i lenwi 24,000 pwll nofio maint Olympaidd, hwn yw’r lle delfrydol i ddysgu hwylio, morio neu rasio. Am ein bod ni 1200 uwchben lefel y môr, rydyn ni’n mwynhau gwyntoedd cyson sy’n gryfach na’r rhai allan ar y môr, felly mae’n gallu bod yn ddigon gerwin yma!
Os oes awydd gennych fynd allan ar y llyn, beth am logi un o’n cychod modur hamdden? Mae hwylio ar gael hefyd trwy Glwb Hwylio Llyn Brenig, sydd ar hyd y ffordd o’r brif ganolfan ymwelwyr. Ac rydyn ni’n llogi caiacs a Rhwyf-fyrddau hefyd erbyn hyn.
A chofiwch! Mae’r Chwaraeon Dŵr yn dibynnu ar y tywydd, felly ffoniwch cyn dod neu cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn osgoi cael eich siomi.
Llogwch un o’n cychod hamdden am awr i’w gofio ar y dŵr yn Llyn Brenig. Perffaith i deuluoedd!
O’ch padlfyrddau, caiacs neu ganŵs ewch am antur ar y gronfa ddŵr a gweld y golygfeydd a’r bywyd gwyllt anhygoel o safbwynt gwahanol.
Llogwch gaiac neu ganŵ i grwydro’r llyn mewn heddwch. Heb hymian injan cwch fe glywch chi holl synau natur wrth badlo.
Mae rhwyf-fyrddio neu SUP yn boblogaidd dros ben. Mae’r bwrdd yn debyg i hwylfwrdd, ond rydych chi’n sefyll arno ac yn defnyddio rhwyf fawr i’ch gyrru’ch hun yn eich blaen yn hytrach na gorwedd ar y bwrdd a phadlo.
Oeddech chi’n gwybod taw Clwb Hwylio Llyn Brenig yw’r uchaf yng Ngogledd Cymru?
Dim ots a ydych chi’n hen law neu’n hollol newydd i hwylio, cysylltwch â’r clwb hwylio i holi am aelodaeth. Mwynhewch holl fanteision y clwb hwylio preifat a dysgwch sut i hwylio ar y llyn arbennig iawn yma. Mae’r clwb yn cynnal sesiynau hyfforddi a rasys yn ystod y tymor hwylio. Oherwydd ein lleoliad tir uchel, mae hi’n gallu bod yn wyntog iawn, ond mae hynny’n rhan o’r hwyl!
Dim ots a oes gennych eich cwch hwylio eich hun neu a ydych am ddefnyddio un o gychod y clwb i ddysgu, ymunwch heddiw!
Criw cyfeillgar yw Clwb Hwylio Llyn Brenig ac mae croeso i aelodau o bob oedran a gallu.
Gallwch ymuno â’r Clwb fel teulu, grŵp neu unigolyn, ac mae aelodaeth i berson ifanc â gwarchodwr ar gael hefyd – ond rhaid bod yn aelod i hwylio ar Lyn Brenig.
I gael manylion a bwcio, cysylltwch â’r Clwb Hwylio trwy glicio’r botwm isod