Hwn oedd ein hymweliad cyntaf â Llyn Brenig, cyfleusterau bendigedig a staff cyfeillgar. Byddwn ni’n sicr o ddod nôl, mae digonedd yn fwy o deithiau cerdded a physgota i’w gwneud.
Alan Humphreys
Ein cyfeiriad yw: Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig, Cerrigydrudion, Conwy, LL21 9TT.
Lleolir Llyn Brenig wrth galon Mynydd Hiraethog ar y ffin rhwng Sir Conwy a Sir Ddinbych. Un o’r plu diweddaraf yn het yr ardal oedd i Ant a Dec ffilmio I’m A Celebrity…Get Me Out Of Here! cwta 30 munud i fyny’r ffordd yng Nghastell Gwrych yn 2020.
Ar y safle mae gennym Ganolfan Ymwelwyr a Chaffi Glan Llyn sy’n hwylus i bobl anabl, hyb beicio a chyleusterau llogi beics, safleoedd picnic, toiledau, digonedd o mae digon o le i barcio ceir, beics a llawer mwy.
A dyma’r lle perff-ŵff i ddod â chŵn am dro hefyd, ac mae croeso iddynt ar falconi’r caffi.
Mae Llyn Brenig ar agor bob dydd os yw’r tywydd yn caniatáu.
Oriau agor yr Haf Canol Mawrth i Hydref 8.00am i 4.00pm (giatiau’n cau am 5.00pm)
Oriau Agor y Gaeaf Tachwedd i Ganol Mawrth 9.00am i 4.00pm (giatiau’n cau am 3.45pm)
Dylid nodi y byddwn ar gau dros y Nadolig ar 24, 25 a 26 Rhagfyr.
Y Daith i’r Gogledd
Mae’n hawdd cyrraedd yma mewn car, rydyn ni gwta 20 munud o Ddinbych. Wrth ddefnyddio teclyn llywio â lloeren, ewch am LL21 9TT a dilynwch yr arwyddion brown wrth nesáu. Mae maes parcio ar gost o £3.00 am ddiwrnod cyfan. Mae’r arian yn mynd i gynnal y safle ac yn caniatáu i ni gadw’r lle’n agored i ymwelwyr. Diolch i chi am eich cefnogaeth. Mae mannau parcio i ymwelwyr anabl yn y brif faes parcio ac yn agos at y lan i bysgotwyr. Mae Mae mynediad gwastad i’r Ganolfan Ymwelwyr, y Caffi a’r Toiledau.
Mae siwrnai ar hyd Taith Cambria’n ddewis poblogaidd i deithwyr. Siwrnai bob cam rhwng y gogledd a’r de ar hyd asgwrn cefn mynyddog Cymru yw hi, ac mae’n rhedeg 185 milltir (300km) o’r naill arfordir i’r llall. Wrth ddilyn yr A470 o Gaerdydd mae pob math o brofiadau bythgofiadwy i’w mwynhau trwy galon Cymru ac ymlaen i Lyn Brenig. Mae’r daith yn gallu cymryd 4 awr mewn car o’r de, ond y ffordd orau o fwynhau’r profiad yw cymryd eich amser i fwynhau’r golygfeydd ar hyd y ffordd.
Mae cyrraedd Gogledd Cymru’n hawdd gyda chysylltiadau bendigedig o feysydd awyr Lerpwl a Manceinion. Mae yna gysylltiadau trên uniongyrchol o lawer o ddinasoedd mawr Prydain hefyd. Mae Gogledd Cymru’n agosach nag y byddech yn ei feddwl! Bydd angen i chi ein cyrraedd ni mewn car neu’n rhan o daith fws arbennig, ond rhan o swyn a phrydferthwch y lle yw ein bod ni ychydig bach yn ddiarffordd.
Ar ôl cyrraedd, un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o fwynhau golygfeydd a seiniau Llyn Brenig yw ar ddwy olwyn. Gallwch logi beic, e-feic neu drelar o’r hyb beicio, neu croeso mawr i chi ddod â’ch beic eich hun. Mae mannau parcio beics ar gael.
Mae digonedd o le i barcio ar y safle. Mae mannau parcio i bobl anabl ar gael y tu allan i’r Ganolfan Ymwelwyr.
SIcrhewch eich bod chi’n symud eich cerbydau o’r maes parcio erbyn yr amserau a nodir am ein bod ni’n cloi’r gatiau dros nos.