Teithiau Grŵp am Brofiadau

Bythgofiadwy

yn Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Ymweliadau Grŵp yn Llyn Brenig


Lle prydferth i fwynhau gweithgareddau awyr agored, a cherdded a beicio yn arbennig.

Chris Smith

Dim ots a ydych chi’n dod gydag ysgol, prifysgol neu’n rhan o ddiwrnod corfforaethol eich cwmni, dyma’r lle delfrydol am ymweliad grŵp. Rydyn i’n croesawu grwpiau Brownis, Geidiaid, Cybiau a Sgowtiaid, Dug Caeredin, Merched y Wawr, u3a a phopeth yn y canol.

Rydyn ni’n arbennig o boblogaidd am Deithiau Bws. Os ydych chi’n gwmni bysiau, beth am ein hychwanegu ni at eich rhestr o gyrchfannau yn y Gogledd? Mae parcio a mynediad am ddim i fysiau, ac rydyn ni’n agored trwy gydol y flwyddyn. Byddwn ni’n gofalu am eich gyrrwr â phaned a byrbryd am ddim hefyd.

Pam ein Dewis Ni?


Parcio

Caffi

Siop Anrhegion

Gweithgareddau

Mae Gogledd Cymru’n cynnig rhai o weithgareddau antur awyr agored gorau’r byd. Traethau bendigedig. Gerddi gogoneddus. Golygfeydd mawreddog. Diwylliant a threftadaeth difyr ym mhob twll a chornel. Taith fws yw’r ffordd ddelfrydol o ddarganfod yr ardal a mwynhau’r holl olygfeydd, a bydd ymweliad â Llyn Brenig yn ychwanegiad braf at unrhyw siwrnai.

Gall gwesteion ymlacio a mwynhau’r golygfeydd dros ddiod neu bryd yn y caffi, neu fynd am dro yn yr awyr iach. Mae ymweliad â’r siop anrhegion i brynu cofrodd Cymreig i gofio’u hymweliad yn bleser hefyd.

Gallwch yrru’r bws yn syth i mewn i’r maes parcio lle cewch eich cyfarch gan aelod o’n tîm a fydd yn dangos y ffordd i’r ganolfan ymwelwyr i chi. Mae caffi, siop anrhegion ac arddangosfa am brosiect y gweilch yn y ganolfan ymwelwyr.

I’r partïon bws mwy anturus, gallwn drefnu pecyn o brofiadau grŵp sy’n cynnwys llogi cychod neu feics, heicio neu adarydda

Bwcio


Er mwyn hwyluso eich ymweliad, rydyn ni’n gofyn bod grwpiau’n bwcio o leiaf pythefnos ymlaen llaw, a gallwn ddarparu ar gyfer grwpiau o hyd at 50.

Mae bwcio’n hanfodol, i gyflwyno ymholiad a thrafod yr holl opsiynau ar gyfer ymweliad e-bostiwch GroupTravel@DwrCymru.com neu ffoniwch 01490 389227.

Gallwch ddefnyddio’r cyfeiriad hwn i drefnu ymweliad grŵp â Chwm Elan a Llyn Llys-y-Frân hefyd.

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU