Ymunwch â ni yn Llyn Brenig am noson arbennig i’r teulu’r Nadolig hwn.
Nid yw’r canllaw mynediad yn cynnwys barn bersonol o ran pa mor addas ydyn ni ar gyfer pobl ag anghenion mynediad. Ei nod yw disgrifio’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael yn Llyn Brenig yn gywir er mwyn helpu pob ymwelydd, gan gynnwys y rhai ag anableddau, i gynllunio eu hymweliad.
Am gyngor ar deithio i Llyn Brenig, gan gynnwys cludiant cyhoeddus, ewch i’n tudalen Ble Ydyn Ni.
Mae pum lle parcio i bobl anabl yn y prif faes parcio a phump ar lan y llyn i bysgotwyr.
Mae arwyneb y maes parcio’n anwastad mewn mannau oherwydd graean a cherrig mân. Mae’r maes parcio tua 30 metr o’r Ganolfan Ymwelwyr.
Mae ramp sy’n dringo’n raddol i brif fynedfa’r Ganolfan Ymwelwyr.



Mae’r ddesg wybodaeth neu groeso yn union o flaen prif fynedfa’r Ganolfan Ymwelwyr.
Mae rhan uchaf y dderbynfa 90cm o’r llawr.



Mae yna nifer o fynedfeydd ochr heb risiau i’r ganolfan ymwelwyr, ac un o’r rhain yw mynedfa’r Hyb Gweithgareddau.
Gellir cyrraedd y balconi sy’n gysylltiedig â’r caffi trwy’r caffi ei hun. O’r balconi, mae yna risiau sy’n arwain i lawr at lwybr sy’n mynd o amgylch y safle. Mae ffordd o gyrraedd y llwybr heb risiau o flaen y Ganolfan Ymwelwyr.



Mae’r llawr yn y ganolfan ymwelwyr yn gymysgedd o loriau llyfn o fath linoliwm, teils a theils carped.
Mae lled lleiaf y drysau a’r mannau y tu fewn i’r Ganolfan Ymwelwyr yn addas i gadeiriau olwyn.
Mae yna arwyddion cyfeirio clir ym mhob rhan o’r adeilad, gan gynnwys arwyddion cyferbynnedd uchaf i’r toiledau. Mae’r tu fewn i’r Ganolfan Ymwelwyr wedi ei oleuo’n dda.
Mae yna floc o doiledau y tu allan i flaen y Ganolfan Ymwelwyr.
Mae gan yr holl doiledau ddrws sengl sy’n agor am i mewn ac sy’n ei gau ei hun wedyn.
Mae yna dai bach ar wahân i wrywod a benywod. Mae yna un toiled neillryw hygyrch hefyd sy’n cynnwys rheiliau canllaw a chyfleusterau newid cewynnau babis.



Mae yna ffenestr wydr fawr gyferbyn â mynedfa’r caffi, sy’n arwain at ardal y balconi.
Mae yna ddrysau llithro a drws tân sengl sy’n arwain allan at ardal y balconi.
Mae ymwelwyr yn archebu wrth y cownter. Gall staff gludo bwyd a diod i’r bwrdd.
Mae’r caffi’n gallu bod yn swnllyd ar adegau prysur, ond mae yna seddi ychwanegol ar y patio neu yn ystafell Gweilch y Pysgod sydd wrth ymyl y siop anrhegion.
Mae bwydlenni ar gael wrth fynedfa’r caffi, ar y cownter ac ar arddangosfeydd digidol uwchben y man talu. Mae bwyd heb glwten / heb gynnyrch llaeth / figan ar gael ac wedi ei labelu.
Mae gan Llyn Brenig ystafell gyfarfod (arddangosfa Gweilch y Pysgod) sydd ar gael i’w llogi. Mae gan yr ystafell gyfarfod ddrysau sengl sy’n agor â llaw, ac mae carped llyfn ar y llawr.



Caniateir cŵn ar y safle, ond rhaid eu cadw ar dennyn neu harnais bob amser. Cŵn tywys yn unig a ganiateir yn y caffi, ond mae croeso i gŵn yn ardal dan do’r balconi.
Nid oes yna fan tawel dynodedig, ond mae yna fannau mwy tawel i eistedd yn Ystafell Gweilch y Pysgod, y tu allan i’r caffi wrth ymyl y siop anrhegion.
Nid oes dolenni sain ar gael, ond gellir eu llogi ar gais.
Mae WiFi ar gael.
Mae yna nifer o allanfeydd tân, o flaen ac ar ochr y Ganolfan Ymwelwyr.
Nid oes grisiau i unrhyw allanfeydd tân.
Drysau dwbl i’w hagor â llaw yw’r holl allanfeydd tân.
Mewn argyfwng, y rheolwr sydd ar ddyletswydd sy’n gyfrifol am sicrhau bod yr holl ymwelwyr a staff yn gadael yr adeilad yn ddiogel, a byddant yn helpu pobl os oes angen. Mae system larwm clywadwy yn y Ganolfan Ymwelwyr, ac mae o leiaf un larwm gweladwy ym mhob ystafell hefyd.
Ymunwch â ni yn Llyn Brenig am noson arbennig i’r teulu’r Nadolig hwn.
Ymunwch â ni am Gystadleuaeth Pysgota Nadolig Llyn Brenig.
Ffeindiwch dag a bachwch ddiwrnod o logi cwch am ddim. Mae’n RHAD AC AM DDIM!