Datblygwyd Arddangosfa Prosiect Gweilch Brenig mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.
Lleolir yr arddangosfa yn y Ganolfan Ymwelwyr, lledwch eich adenydd a dewch i grwydro, dysgu am hanes y prosiect a dilyn ein hadar ar hyd y tymhorau.
Gwyliwch ein fideo i weld beth y gallwch ei ddisgwyl gan Arddangosfa Gweilch Llyn Brenig.
Pan mae’r gweilch yma, gallwch eu gwylio nhw o glydwch y ganolfan ymwelwyr trwy ffrwd camera fyw o’r nyth. Bydd tîm yr arddangosfa’n rhannu’r holl newyddion diweddaraf â chi, a byddan nhw’n gallu addasu’r camerâu i chi gael gweld y cyfan. Bob blwyddyn, rydyn ni’n gwylio’r holl ddatblygiadau pwysig yng nghylch oes y gweilch, o baratoi’r nyth, dodwy’r wyau, deor, mam a dad yn bwydo’r cywion â physgod, a’r cywion yn gadael y nyth. Eiliadau hollol hudolus sy’n cael eu ffilmio’n fyw er mwyn rhannu’r profiad â chi.
• MANYLION PELLACH •Am brofiad agosach, rydyn ni’n cynnig cyfleoedd i weld y Gweilch o’r guddfan neu’r ardal wylio. Bydd cymorth wrth law gan yr RSPB, ac mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yn gweithio o’r ardal wylio ym Mae’r Clwb Hwylio hefyd.
• MANYLION PELLACH •