Dwi wedi bod yn dod i gael brecwast yn y Ganolfan Ymwelwyr ers blynyddoedd. Mae’n fendigedig bob tro, ac mae’r olygfa’n wych!
Google Review 2020
Mewn lleoliad delfrydol uwch y dŵr, y peth cyntaf y sylwch chi wrth ddod i mewn i gaffi Llyn Brenig yw’r golygfeydd bendigedig dros y llyn a Mynydd Hiraethog. Wedyn bydd arogl bendigedig y danteithion o’r gegin yn llenwi’ch ffroenau…
Mae’r lle golau’n ffenestri i gyd, felly cewch olygfa anhygeol lle bynnag y byddwch chi’n eistedd. Mae’r ffenestr fawr o’r llawr i’r nenfwd ar ben y caffi’n arwain allan at falconi i’r rhai sydd am fwyta al fresco. Rydyn ni’n falch fod gennym sgôr 5* am hylendid bwyd yma.
Mae croeso i gŵn ddod i ymlacio ar y balconi gyda chi.
* Os ydych chi’n chwilio am swydd lle byddwch yn gweithio gyda thîm bendigedig mewn lleoliad hyfryd, cadwch lygad am ein hysbyseb recriwtio staff arlwyo a fydd allan cyn bo hir. A gallwch gofrestru i gael hysbysiadau trwy borth gyrfaoedd Dŵr Cymru Welsh Water hefyd yn: https://swyddi.dwrcymru.com/
Mwynhewch ddiod gynnes, cacen gartref neu bryd poeth o’n bwydlen dymhorol. Mae’r danteithion Cymreig lleol yn cynnwys powlen o Gawll cynnes neu ddarn o Fara Brith. Mae ein bwyd yn cael ei baratoi’n ffres yn y gegin, ac mae dewisiadau llysieuol a di-glwten ar gael. Rhowch wybod i ni os oes unrhyw anghenion dietegol eraill gennych.
Bydd ein tîm yn hapus i arlwyo ar gyfer unrhyw achlysur, o grwpiau bws i bartïon pen-blwydd. Mae Te Prynhawn Brenig yn ddewis poblogaidd, yn ddelfrydol i griw o ffrindiau, parti bwmp neu Sul y Mamau. Brechdanau bach, sgons â hufen a jam, cacennau bach a bara brith i roi blas Cymreig ar y cyfan. Os ydych chi am i ni arlwyo ar gyfer eich grŵp, rhowch alwad i ni heddiw i drafod eich gofynion.
Mae amrywiaeth hynod o gynnyrch Cymreig i’w flasu a’i brynu yn Siop Cynnyrch Cymreig y caffi. Dyma rhai o’r Uchafbwyntiau: Rym Sbeis Barti, Ddu Distyllfa Aber Falls Gwinllan Pant Du, Caws Cenarth Caws, Snowdonia cheese company, Wisgi, jin a fodca Penderyn. Caws Cenarth.