Gwenoliaid y Glennydd - Llyn-Brenig

Cadwraeth

Gwennol y Glennydd

Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Gwenoliaid y Glennydd yn Llyn Brenig


Mae gwenoliaid y glennydd yn ymwelwyr cyson â Llyn Brenig yn yr haf, gan gyrraedd ddechrau’r gwanwyn i fridio, a gadael ddiwedd yr haf.

Rydyn ni wedi adeiladu gwesty i wenoliaid y glennydd ar lan y dŵr er mwyn helpu i gynnal yr adar bach bendigedig yma. Mae’r blychau wedi eu dylunio i efelychu eu hamgylchedd naturiol. Gellir eu gweld o Gaffi Brenig, ac mae yna gamerâu hefyd.

Ffrwd Fyw Gwesty Gwenoliaid y Glennydd


Yn Fuan!

Ffrwd Fyw Gwesty Gwenoliaid y Glennydd


Mae sgriniau mawr yn y ganolfan ymwelwyr yn dangos ffrwd fyw o westy gwenoliaid y glennydd yn Llyn Brenig.

Cewch wylio holl ddrama ac adegau arbennig ein nythfa mewn amser real trwy gydol y tymor.

Byddwn ni’n rhannu diweddariadau rheolaidd ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol dros yr haf hefyd.

Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau dilyn bywydau pob dydd ein gwenoliaid y glennydd.

Oeddech chi’n gwybod?


Bod gwenoliaid y glennydd yn perthyn yn agos i wenoliaid y bondo. Nhw yw un o’r ymfudwyr cyntaf i gyrraedd yn y gwanwyn, gan gyrraedd rhwng canol Mawrth a chanol Ebrill, gyda’r hwyrddyfodiaid yn cyrraedd hyd Fehefin.

Mae’r adar cymdeithasgar yma’n nythu gyda’i gilydd mewn nythfa fawr ac maent yn hoffi byw mewn banciau sych a fertigol o bridd meddal fel pyllau tywod, pyllau graean, hafnau rheilffyrdd, glannau afonydd a llynnoedd, a chlogwyni.

Mae’r adar gwrywaidd a benywaidd yn gweithio i dorri twnnel llorweddol 50-90cm o hyd gyda siambr ar y diwedd. Ar ôl dodwy’r wyau ddiwedd Mai / dechrau Mehefin, maent yn cymryd tua phythefnos i ddeori. Mae’r holl wyau’n deor yr un pryd. Mae’r cywion yn magu plu yn 19-24 diwrnod oed.

Mae’r adar yn ymadael rhwng diwedd Gorffennaf a Medi. Credir bod y rhan fwyaf ohonynt yn treulio’r gaeaf yn y Sahel; i’r de o’r Sahara.

Amddiffynnir gwenoliaid y glennydd a’u nythod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Adeiladu Gwesty Gwenoliaid y Glennydd


Mae’r gwesty gwenoliaid y glennydd yn cynnwys hanner cant o flychau nythu, y mae pob un ohonynt wedi eu dylunio i efelychu twll naturiol.

Ychwanegwyd haenau o bersbecs i’w gwneud yn anos i anifeiliaid ddringo i mewn iddynt er mwyn helpu i leihau’r risg o ysglyfaethu. Mae Sandtex a thywod yn gorchuddio’r arwyneb er mwyn gwneud iddo edrych yn debycach i fanc tywod naturiol.

Mae’r to gwyrdd yn ei gynorthwyo i asio i’r amgylchedd (ac mae’n edrych yn well hefyd!).

Prosiectau Cadwraeth Eraill


Prosiect Gweilch y Pysgod Brenig

Dysgwch ragor am ein hymwelwyr bendigedig dros yr haf a sut mae mynd ati i’w gwylio yn eu cynefin naturiol mewn ffordd gynaliadwy.

• DARLLEN MWY •

Prosiect Gwiwerod Coch

Darganfyddwch sut mae Llyn Brenig yn denu gwiwerod coch i’r ardal gyda blychau, pontydd, samplo DNA – a belaod y coed!

• DARLLEN MWY •

Pori er Lles Cadwraeth

Dysgwch pam y gallech ddod ar draws gwartheg tir uchel wrth gerdded yn Llyn Brenig, a sut y gallant gyfrannu at fioamrywiaeth.

• DARLLEN MWY •

Digwyddiadau i ddod

24-24
Oct
Rali Cambria

Yn enwog am ei rasys ymestynnol trwy fforestydd Cymru, mae Rali Cambria’n parhau i ddenu cystadleuwyr o’r safon uchaf o bob rhan o Brydain a’r tu hwnt.

• DARLLEN MWY •
28-31
Oct
Llwybr Calan Gaeaf

Ymunwch â ni am ychydig o hwyl arswydus wrth ymarfer eich sgiliau ditectif ar ein llwybr Calan Gaea’!

• DARLLEN MWY •
1-31
Apr   Dec
Cystadleuaeth Pysgota Tag

Ffeindiwch dag a bachwch ddiwrnod o logi cwch am ddim. Mae’n RHAD AC AM DDIM!

• DARLLEN MWY •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR