Cysylltu â Byd Natur - Llyn-Brenig

Cysylltu

â Byd Natur

yn Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Cysylltu â Byd Natur


Mae’r cymysgedd o dir fferm, coetiroedd, prysgwydd a chynefinoedd glan dŵr yn golygu bod Llyn Brenig yn gyfoeth o fywyd gwyllt a natur.

Uchafbwyntiau Bywyd Gwyllt


Cofnodwyd dros 130 o rywogaethau o adar o gwmpas Llyn Brenig. Mae’r rhywogaethau nodedig o bwys lleol yn cynnwys y telor penddu, pibydd y dŵr, y pi fach, clochdar y cerrig a’r gylfinir.

Cadwch lygad am farcutiaid coch, bwncathod, hebogiaid tramor a chudyllod coch yn hedfan i fyny fry neu’n clwydo ar frigiadau creigiog. Wrth gwrs, yn yr haf mae Llyn Brenig yn denu gweilch y pysgod i fridio hefyd.

Mae carlymoliaid fel carlymod, gwencïod a ffwlbartiaid yn bresennol ar yr ystâd hefyd. Gallech fod yn ddigon ffodus i weld dyfrgi’n nofio’n osgeiddig a llyfn trwy’r dyfrffyrdd, â’i ffurf liflin yn destament i’w feistrolaeth o amgylcheddau dyfrol.

Mae rhywogaethau blodau’r dolydd fel y clafrllys, y feillionen hopysaidd a ffacbys yn darparu neithdar a phaill ar gyfer amrywiaeth o bryfed a gloÿnnod byw fel iâr fach y glaw, llwyd y ddôl a’r copor bach.

Yn yr Ardal


Mae Llyn Brenig o fewn ardal ucheldir helaeth Mynydd Hiraethog yng Ngogledd Cymru. Y copa uchaf yw Mwdwl-eithin (532 medr).

Mae’r rhanbarth wedi ei nodweddu gan lwyfandiroedd uchel gwlyb a chorgorsydd. Mae coetiroedd llydanddail hynafol, fel Coedydd Dyffryn Alwen, yn frith ar hyd ochrau’r dyffrynnoedd serth. Mae tir amaeth a thir wedi ei wella’n amgylchynu’r llwyfandiroedd uchel sy’n cael eu defnyddio’n bennaf at ddibenion defaid pori a chynhyrchu silwair.

I’r gogledd i Lyn Brenig mae Gwarchodfa Natur Maen Llwyd, sy’n cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Mae ei rhostiroedd, cors a gwlyptiroedd yn llawn cryglus, migwyn a ffa’r gors. Mae ceiliogod du a chochiaid (sydd bellach wedi eu hamddiffyn rhag saethu) yn bridio ar y safle.

Clocaenog, i’r de i Lyn Brenig, yw un o fforestydd conifferaidd mwyaf Cymru, ac mae’n gadarnle i wiwerod coch diolch i waith cadwraeth Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog.

Mae’r ardal yn adnabyddus am olion cynhanesyddol, yn enwedig o Oes yr Efydd. Ymddengys fod poblogaeth sylweddol wedi bod yn byw yma yn y cyfnod yma, pan oedd yr hinsawdd ychydig yn gynhesach nag ar hyn o bryd.

Mae adfeilion y porthdy hela Gwylfa Hiraethog ar ucheldir Mynydd Hiraethog, a gall eu gweld o’r ffordd A543 gerllaw.

Prosiectau Cadwraeth


Mae’r tîm yn Llyn Brenig wedi ymrwymo i gadwraeth a chynnal bioamrywiaeth.

Am fanylion hyn, ewch i’n tudalen Cadwraeth sydd yma.

Brenig Osprey Project

Find out more about our stunning summer visitors and how you can observe them sustainably in their natural habitat.

• READ MORE •

Sand Martin Hotel

New in 2024, the artificial nesting site offers opportunities to observe the breeding season dramas of the gregarious sand martin.

• READ MORE •

Prosiect Gwiwerod Coch

Darganfyddwch sut mae Llyn Brenig yn denu gwiwerod coch i’r ardal gyda blychau, pontydd, samplo DNA – a belaod y coed!

• READ MORE •

Pori er Lles Cadwraeth

Dysgwch pam y gallech ddod ar draws gwartheg tir uchel wrth gerdded yn Llyn Brenig, a sut y gallant gyfrannu at fioamrywiaeth.

• READ MORE •

Title


Text

Digwyddiadau i ddod

18-20
Dec
Llwybr Goleuadau’r Nadolig a Grot Siôn Corn

Ymunwch â ni yn Llyn Brenig am noson arbennig i’r teulu’r Nadolig hwn.

• DARLLEN MWY •
28
Dec
Cystadleuaeth Pysgota Nadolig

Ymunwch â ni am Gystadleuaeth Pysgota Nadolig Llyn Brenig.

• DARLLEN MWY •
1-31
Apr   Dec
Cystadleuaeth Pysgota Tag

Ffeindiwch dag a bachwch ddiwrnod o logi cwch am ddim. Mae’n RHAD AC AM DDIM!

• DARLLEN MWY •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR