Am Lyn Brenig

Iechyd, Lles a

Hamdden

yn Llyn Brenig

Dathlu Hanner Can Mlynedd

Gan Dŵr Cymru

Am Lyn Brenig


Hyb ar gyfer iechyd, lles a hamdden ydyn ni yng ngofal Dŵr Cymru. Lle gwych i ddianc rhag y dorf, ac â digonedd o le i bawb, gallwch anadlu awyr iach Cymreig yn ddwfn i’r enaid wrth gerdded, beicio, cael picnic, pysgota, bwyta, yfed ac edmygu’r golygfeydd.

Mae mynediad am ddim ac rydyn ni’n agored trwy’r flwyddyn.

Ein Stori


Rydw i wrth fy modd ar y lle yma. Cymaint lefydd hyfryd i fynd am dro. Lle bendigedig i dreulio amser fel teulu.

Mummy Fever

Cronfa rheoleiddio afon yw Llyn Brenig a gwblhawyd ym 1976. Mae’n cyfoethogi llif Afon Dyfrdwy yn yr haf, ac yn darparu dŵr gwerthfawr ar gyfer aelwydydd a busnesau yn y gogledd-ddwyrain.

Adeiladwyd y Ganolfan Ymwelwyr gan Ddŵr Cymru, sy’n gwmni dŵr nid-er-elw.

Nid oes cyfranddeiliaid gan Ddŵr Cymru, felly mae pob un geiniog a wnawn yn mynd yn syth ôl i gadw biliau’n isel a gofalu am eich dŵr a’ch amgylchedd prydferth – nawr, ac am flynyddoedd mawr i ddod. Rydyn ni’n credu ei bod hi’n ffordd well o lawer o wneud pethau.

Rydyn ni’n gweithio’n galed bob amser i wella a chyfoethogi eich profiad fel ymwelwyr, ac mae cynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer y dyfodol.

Uchafbwyntiau Eraill


Chwaraeon Dŵr

Yn Llyn Brenig rydyn ni’n cynnig Canŵio. Y llyn yw’r lle perffaith i hwylio gyda’i ddŵr croyw a heb lanw. Rydyn ni 1200 troedfedd uwch lefel y môr felly mae hi’n gallu bod yn wyntog! Mae’r clwb hwylio bob amser yn croesawu aelodau newydd ac mae amrywiaeth eang o gychod a hyfforddiant ar gael.

• MWY •

Walking

Mae’r llwybrau’n amrywio o daith fer o amgylch yr argae i daith gylchol 4 awr o amgylch Llyn Brenig i gyd. Beth bynnag yw’ch dewis, mae’r golygfeydd yn hynod. I’r dwyrain fe welwch fryniau Clwyd, a gallwch hyd yn oed weld y môr tua Phrestatyn a Gronant ar ddiwrnod clir. Dim ots a chi’n chwilio am heic a hanner neu dro bach gyda bygi, estynnwch eich cam, anadlwch yn ddwfn a mwynhewch y daith.

• MWY •

Y Ganolfan Ymwelwyr

Y Ganolfan Ymwelwyr yw’r lle gorau i ddechrau’ch ymweliad. Bydd yna groeso cynnes a phaned poeth bob tro. Nid yw’r un ymweliad yn gyflawn heb baned a rhywbeth i’w fwyta yn ein caffi. Yma cewch ymlacio, dal eich gwynt a mwynhau’r golygfeydd godidog dros y dŵr . Gwyliwch yr adar yn hedfan yn eu cynefin o’r balconi neu trwy’r ffenestri helaeth.

• MWY •

Dylid nodi bod y gwasanaeth ffôn poced yn wael ar bob rhwydwaith yn yr ardal hon.

Digwyddiadau i ddod

24-24
Oct
Rali Cambria

Yn enwog am ei rasys ymestynnol trwy fforestydd Cymru, mae Rali Cambria’n parhau i ddenu cystadleuwyr o’r safon uchaf o bob rhan o Brydain a’r tu hwnt.

• DARLLEN MWY •
28-31
Oct
Llwybr Calan Gaeaf

Ymunwch â ni am ychydig o hwyl arswydus wrth ymarfer eich sgiliau ditectif ar ein llwybr Calan Gaea’!

• DARLLEN MWY •
1-31
Apr   Dec
Cystadleuaeth Pysgota Tag

Ffeindiwch dag a bachwch ddiwrnod o logi cwch am ddim. Mae’n RHAD AC AM DDIM!

• DARLLEN MWY •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR