Anturiaethau ar Ddwy

Olwyn

yn Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Llwybrau Beicio yn Llyn Brenig


Rydw i a fy meic mynydd yn ymwelwyr cyson. Mae’r llwybrau’n wych a’r golygfeydd yn fendigedig.

Trip Advisor – 2020

Mae gan Lyn Brenig amrywiaeth o lwybrau beicio o lefelau amrywiol – bob un yn manteisio’n llawn ar yr amodau a’r tirweddau perffaith ar gyfer beicio. Dyna pam rydym yn un o’r lleoedd mwyaf poblogaidd i feicio yng ngogledd Cymru, neu’r wlad efallai!

Ni waeth beth yw eich oedran neu allu beicio, mae Llyn Brenig yn ffordd hwyliog ac iach o archwilio rhai o’r 2500 erw sy’n amgylchynu’r llyn. Mae rhwydwaith o lwybrau ag arwyddbyst ar gael i chi feicio ar eu hyd, neu gallwch ddewis eich llwybr eich hun os yw’n well gennych.

Mae mannau parcio beics ar gael.

Llogi Beics


Mae gennym amrywiaeth o feics i blant ac oedolion, gan gynnwys e-feics a threlars i’w llogi.

Ar gael i’w llogi rhwng 9.00am a 3.00pm, rydyn ni’n agored 7 diwrnod yr wythnos dros fisoedd yr haf, a thrwy fwcio ymlaen llaw rhwng Tachwedd a Mawrth.

Rydyn ni’n argymell bwcio ymlaen llaw bob amser i osgoi siom, yn arbennig os ydych chi’n dod fel grŵp.

Noder: rhaid dangos tystiolaeth pwy ydych chi adeg llogi, fel pasbort, trwydded yrru neu gerdyn banc dilys. Mae’r amodau a thelerau llogi llawn ar gael ar gais, a rhaid llofnodi ffurflen bwcio i gydnabod eich bod wedi darllen yr amodau a’r telerau hyn adeg llogi.


Prisiau (fesul 1 awr)

Beic Plentyn £9.00 | Beic Oedolion £16.00 | E-feic £25.00 | Trelar £12.00

• Bwcio •

Dewis eich Llwybr Beicio


ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU