Mae Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig yn lle gwych i ddechrau eich Antur Dŵr Cymru.
Mae ein Canolfan Ymwelwyr yn cynnig Caffi, Arddangosfa Prosiect y Gweilch, Siop Anrhegion, Siop Bysgota a Hyb Beicio.
Galwch heibio i gael mapiau o’r ardal, chwilio am gofrodd Cymreig yn ein Siop Anrhegion, llogi beic neu gwch, prynu hawlen bysgota neu brynu ddillad a thacl pysgota.