Ymunwch â ni yn Llyn Brenig am noson arbennig i’r teulu’r Nadolig hwn.
Rydyn ni’n gwybod bod gwiwerod coch yn Llyn Brenig ac yng Nghoedwig Clocaenog sydd gerllaw.
Y wiwer goch (Sciurus vulgaris) yw un o famaliaid mwyaf prin y DU, er ei bod yn frodorol i Ynysoedd Prydain ers yr Oes Ia diwethaf.
Roedd y creaduriaid hyn yn arfer bod yn olygfa gyffredin o’r Alban i Gernyw, ond mae niferoedd wedi disgyn yn ddramatig ers cyflwyno’r gwiwerod llwyd (sciurus carolinensis) ddiwedd y 19eg ganrif.
Credir bob yna boblogaeth o rhwng 120,000 a 160,000 o wiwerod coch yn y DU erbyn hyn. Ystyrir eu bod mewn perygl yng Nghymru a Lloegr.
Mae gwiwerod coch yn chwarae rhan bwysig yn ecoleg coedwigoedd conifferau trwy ledu hadau coed a ffwng.
Mae Llyn Brenig wedi ymrwymo i wella dyfodol cadwraeth y gwiwerod coch yn y gogledd. Darllenwch ymlaen i glywed rhagor am y cynlluniau sy’n cael eu treialu ar draws ystâd Brenig.

Profwyd bod presenoldeb belaod y coed wedi lleihau dwyster poblogaethau o wiwerod llwyd, sy’n caniatáu i wiwerod coch lewyrchu eto. Felly mae’r gofalwyr wedi gosod ffeuau artiffisial i felaod y coed ar draws ystâd Brenig. Mae eu defnydd yn cael ei fonitro trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys treial gan ddefnyddio camera thermol.
Does dim byd pendant wedi codi eto, ond mae camera yn y coed wedi cofnodi’r ddwy rywogaeth yn yr un rhan o’r goedwig ar adegau gwahanol, sy’n galonogol.

Cododd Gofalwyr Llyn Brenig bont canopi yn 2024. Y gobaith yw y bydd hyn yn gwella’r cysylltiadau rhwng cynefinoedd y gwiwerod coch yn yr ardal.
Gallai’r bont ddarparu cyfleoedd i wiwerod coch ymledu ar draws ardal ehangach am fod yn well ganddynt deithio trwy ganopi parhaus yn hytrach na chroesi tir agored.
Mae camera i fonitro ei effeithiolrwydd y bont.

Mae yna bryderon am amrywiaeth genetig cyfyngedig poblogaethau o wiwerod coch. Mae Llyn Brenig yn archwilio ffyrdd o gasglu samplau er mwyn dadansoddi eu DNA.
Un syniad yw defnyddio padiau gludiog i gasglu samplau blew/ffwr.
Byddai gwell dealltwriaeth am eu geneteg o ddiddordeb i sefydliadau cadwraeth ac amgylcheddol allweddol fel Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, Fforwm Gwiwerod Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog.
Dysgwch ragor am ein hymwelwyr bendigedig dros yr haf a sut mae mynd ati i’w gwylio yn eu cynefin naturiol mewn ffordd gynaliadwy.
• DARLLEN MWY •Ychwanegiad newydd yn 2024, bydd y safle nythu artiffisial yn cynnig cyfle i wylio holl ddrama bywyd gwenoliaid y glennydd yn ystod y tymor bridio.
• DARLLEN MWY •Dysgwch pam y gallech ddod ar draws gwartheg tir uchel wrth gerdded yn Llyn Brenig, a sut y gallant gyfrannu at fioamrywiaeth.
• DARLLEN MWY •Mae sgriniau mawr yn y ganolfan ymwelwyr yn dangos ffrwd fyw o westy gwenoliaid y glennydd yn Llyn Brenig.
Cewch wylio holl ddrama ac adegau arbennig ein nythfa mewn amser real trwy gydol y tymor.
Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau dilyn bywydau pob dydd ein gwenoliaid y glennydd.
Follow the Llyn Brenig House Martins on Facebook.
Ymunwch â ni yn Llyn Brenig am noson arbennig i’r teulu’r Nadolig hwn.
Ymunwch â ni am Gystadleuaeth Pysgota Nadolig Llyn Brenig.
Ffeindiwch dag a bachwch ddiwrnod o logi cwch am ddim. Mae’n RHAD AC AM DDIM!