Pori er Lles Cadwraeth - Llyn-Brenig

Gwella Bioamrywiaeth

Pori er Lles Cadwraeth

yn Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Pori er Lles Cadwraeth yn Llyn Brenig


Dull o ddefnyddio da byw, fel gwartheg neu ferlod, ar gyfer pori dwysedd isel er mwyn helpu i gyfoethogi amrywiaeth naturiol yw pori er lles cadwraeth. Oherwydd eu harferion bwydo a’u maint, maen nhw’n cadw rhywogaethau o blanhigion ymwthgar dan reolaeth ac yn troi’r tir. Mae eu hymddygiad yn helpu i greu’r amodau delfrydol ar gyfer pob math o blanhigion a phryfed, sydd yn eu tro yn hybu adar a mamolion. Mater o ddychwelyd at arferion pori mwy traddodiadol at ddibenion cadwraeth fodern yw hyn.

Mae’r tîm yn Llyn Brenig yn treialu pori er lles cadwraeth gyda gwartheg tir uchel ar yr ystâd.

Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae’n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.

Y Cyd-destun Hanesyddol ac Amgylcheddol


Efallai ei bod hi’n syndod i rai bod pori gwartheg wedi cael effaith fwy sylweddol ar amgylchedd naturiol yr ardal na defaid yn hanesyddol. Mae tystiolaeth yn awgrymu y bu ffermwyr Neolithig yn pori gwartheg yn y rhanbarth mor bell yn ôl â 10,000 CC, ond ni ddaeth pori defaid yn flaenllaw tan tua 1300 OC.

Mae hi’n bwysig deall fod defaid a gwartheg yn pori mewn ffyrdd gwahanol, sy’n golygu eu bod yn cael effaith wahanol ar fioamrywiaeth.

Mae defaid yn dueddol o ganolbwyntio ar ardaloedd penodol â llystyfiant blasus, sy’n golygu bod rhai ardaloedd yn cael eu gor-bori, a chlytiau eraill yn cael eu gadael i dyfu’n wyllt.

Yn gyferbyniol, mae gwartheg yn pori dros ardal ehangach, gan helpu i chwalu’r llystyfiant cynefinol trwchus, a chaniatáu i fwy o olau gyrraedd arwyneb y pridd.  Mae amrywiaeth eang o blanhigion yn gallu egino o ganlyniad, gan ddenu bywyd gwyllt mwy amrywiol.

Rhoi’r cynllun ar waith yn Llyn Brenig


Sefydlwyd plotiau arbrofol, gan gynnwys ardaloedd pori nodweddiadol, ac ardaloedd coediog. Dewiswyd gwartheg tir uchel am eu bod yn weddol ddof ac yn hapus i fwyta deunyddiau mwy garw. Cyflawnwyd arolygon sylfaen i fonitro’r effeithiau ar fioamrywiaeth.

Efallai y sylwch nad oes ffensys i gadw’r gwartheg i mewn. Mae hynny’n iawn. Mae ffiniau’r treial wedi cael eu mapio ar ap ffôn i greu ‘geoffens’. Mae’r gwartheg yn gwisgo coleri GPS sy’n chwarae alaw i dynnu eu sylw os ydyn nhw’n mynd yn agos at y ffin rhithiol sydd ar yr ap. Os byddan nhw’n croesi’r ffin, bydd y coler yn rhoi pwls trydan bach iddyn nhw, fel y byddai ffens trydan yn ei roi. Mae’r gwartheg yn dysgu’n weddol gyflym i droi nôl wrth glywed yr alaw. At ddibenion y treial yma, mae yna ffens trydan ffisegol ar ffin allanol yr ardal er mwyn cynnig ail linell amddiffynnol rhag dianc.

Trwy gydol y treial, bydd bugeiliaid gwirfoddol yn galw draw i gadw llygad ar y gwartheg er mwyn sicrhau eu bod nhw’n iach, yn ymddwyn fel y dylen nhw ac yn yr ardal pori ddynodedig.

Mae gwirfoddolwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y prosiect trwy gysylltu â’r tîm yn llynbrenig@dwrcymru.com am wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael.

Nodyn i Gerddwyr a Phobl sy’n Mynd â Chŵn am Dro


Os dewch ar draws y gwartheg wrth ymweld, gofynnwn yn garedig i chi beidio â mynd yn agos atynt ac i gadw cŵn ar dennyn. Os ydych chi’n teimlo dan fygythiad gan y gwartheg, dan amodau eithriadol iawn, gallai fod yn syniad gadael y ci oddi ar y tennyn nes ei bod yn ddiogel ei wisgo amdano eto.

Prosiectau Cadwraeth Eraill


Prosiect Gweilch y Pysgod Brenig

Dysgwch ragor am ein hymwelwyr bendigedig dros yr haf a sut mae mynd ati i’w gwylio yn eu cynefin naturiol mewn ffordd gynaliadwy.

• DARLLEN MWY •

Gwesty Gwenoliaid y Glennydd

Ychwanegiad newydd yn 2024, bydd y safle nythu artiffisial yn cynnig cyfle i wylio holl ddrama bywyd gwenoliaid y glennydd yn ystod y tymor bridio.

• DARLLEN MWY •

Prosiect Gwiwerod Coch

Darganfyddwch sut mae Llyn Brenig yn denu gwiwerod coch i’r ardal gyda blychau, pontydd, samplo DNA – a belaod y coed!

• DARLLEN MWY •

Digwyddiadau i ddod

18-20
Dec
Llwybr Goleuadau’r Nadolig a Grot Siôn Corn

Ymunwch â ni yn Llyn Brenig am noson arbennig i’r teulu’r Nadolig hwn.

• DARLLEN MWY •
28
Dec
Cystadleuaeth Pysgota Nadolig

Ymunwch â ni am Gystadleuaeth Pysgota Nadolig Llyn Brenig.

• DARLLEN MWY •
1-31
Apr   Dec
Cystadleuaeth Pysgota Tag

Ffeindiwch dag a bachwch ddiwrnod o logi cwch am ddim. Mae’n RHAD AC AM DDIM!

• DARLLEN MWY •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR