Llwybr hawdd dros dir gwastad yw llwybr Brenig yn bennaf, ond byddwch yn barod am ddringfa ymestynnol ond gwerth chweil tua hanner ffordd trwy’r daith. Yn ystod eich taith cewch fwynhau golygfeydd godidog dros y dŵr a phrydferthwch y gors.
Oeddech chi’n gwybod bod modd llogi beics yn Llyn Brenig? Mae beiciau i oedolion gennym mewn 3 maint gwahanol, beics i blant a hyd yn oed trelars beics.
Llwybr cylchol gwrth-glocwedd a fydd yn cymryd tua 2 awr i’w gwblhau. Does yna’r un ffordd well o gael awyr iach wrth fwynhau golygfeydd godidog Llyn Brenig.
Cyfeirnod Map Arolwg Ordnans SH97325530.
Ewch dros yr ar argae a throi tua'r chwith.
Dilynwch y tro pedol gan basio Hafoty ar y dde.
Dros y grid gwartheg, i fyny'r bryn, daliwch i fynd wedyn trowch i'r chwith gan ddilyn ein llwybr bendigedig i Warchodfa Natur Gors Maen Llwyd – lle gwych i ddal eich gwynt ac edmygu'r golygfeydd.
I lawr a thrwy'r 'ddwy giât', darn braf tuag i lawr mewn gêr isel, ond gan bwyll am fod cerddwyr yn yr ardal hon! Ewch dros Bont Brenig ac yn ôl i fyny trwy'r gêrs… trowch i'r chwith ar ben y bryn.
Dilynwch Drac y Goedwig nôl i'r Ganolfan Ymwelwyr, gan fwynhau golygfeydd hyfryd o'r llyn ar hyd y ffordd.
7m / 11km. Beiciwch ar hyd llwybr hyfryd glan y dŵr ac i ddyfnderoedd y goedwig, a darganfyddwch olygfeydd bendigedig wrth ddilyn Llwybr Beicio Alwen.
• EWCH I’R LLWYBR •2.5m / 4km. Darganfyddwch Lwybr Beicio’r Argae wrth ddringo’r llethrau i fwynhau golygfeydd hyfryd.
• EWCH I’R LLWYBR •5m / 8km. Beiciwch yn galed i fyny’r bryn, mwynhewch olygfeydd godidog o’r llyn cyn igam-ogamu i lawr ar hyd llwybr y goedwig.
• EWCH I’R LLWYBR •