Dydd Sadwrn 20 Mai, ni fydd mynediad cyhoeddus i unrhyw ran o blanhigfa na chronfa Alwen oherwydd Rali Clwb Modur Knutsford a’r Cylch.
Rali ceir aml leoliad yw hi. Bydd pedair rhan o’r rali’n digwydd ym mhlanhigfa Alwen, felly am resymau diogelwch, bydd mynediad i’r ardal yn gyfyngedig am y diwrnod hwnnw’n unig.
Bydd Llyn Brenig, y ganolfan ymwelwyr a’r holl atyniadau eraill ar agor o hyd, ac eithrio Llwybr Cerdded y Ddau Lyn.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Crwydrwch 2500 erw o goedwigoedd, rhostiroedd a llynnoedd â golygfeydd tir uchel bendigedig. Gyda chanolfan ymwelwyr, caffi, siop anrhegion, arddangosfa gweilch, maes chwarae antur, llogi beics, beicio mynydd, llwybrau cerdded, hwylio a physgota o safon ryngwladol i’w darganfod.
Llyn Brenig yw un o bysgodfeydd pen y dŵr gorau yn y DU. Â 23km o lannau, mae’r llyn yn cael ei stocio â brithyll seithliw i bysgotwyr â phlu a cheir pysgota penhwyaid yn y gaeaf. With 23km of shoreline, the lake is stocked with rainbow trout for fly fishing and pike fishing in the winter. Rhaid bwcio ymlaen llaw i bysgota.
• MWY •Amodau beicio perffaith i bobl o bob oedran a gallu. Cewch logi amrywiaeth o feics neu ddod â’ch un eich hun. Mwynhewch daith hamddenol braf i’r teulu ar e-feic neu antur beicio mynydd cyffrous.
• MWY •Mae Llyn Brenig yn gartref i bâr bridio o weilch o’r gwanwyn hyd ddiwedd Awst. Gwyliwch ffrwd fyw o’r nyth o glydwch y ganolfan ymwelwyr neu bwciwch le yn y guddfan adarydda i gael golwg mwy manwl.
• MWY •Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cadw’r hawl i gau safle Llyn Brenig yn llwyr neu’n rhannol, cyfyngu ar fynediad at y dŵr neu ganslo gweithgaredd unrhyw bryd os yw’n credu bod yna amodau anaddas neu risgiau na ellir eu rheoli.
Mae diogelwch o’r pwys mwyaf yn ein holl weithgareddau Ond mae chwaraeon dŵr a gweithgareddau antur yn beryglus o ran eu natur, ac mae yna risgiau.
Rhaid i gwsmeriaid gydymffurfio â’r holl reoliadau diogelwch ac â chyfarwyddiadau tîm Llyn Brenig bob amser.