Llogi Beics - Llyn-Brenig

Anturiaethau Ar Ddwy Olwyn

Llogi Beics

yn Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Llogi Beics


Mae Llyn Brenig yn cynnig gwasanaeth llogi beics ar gyfer oedolion a phlant. Mae beics trydan a threlars ar gael i’w rhentu hefyd.

Ar gael i’w llogi rhwng 9.00am a 3.00pm, rydyn ni’n agored 7 diwrnod yr wythnos dros fisoedd yr haf, a thrwy fwcio ymlaen llaw rhwng Tachwedd a Mawrth.

Rydyn ni’n argymell bwcio ymlaen llaw bob amser i osgoi siom, yn arbennig os ydych chi’n dod fel grŵp.

Noder: rhaid dangos tystiolaeth pwy ydych chi adeg llogi, fel pasbort, trwydded yrru neu gerdyn banc dilys. Mae’r amodau a thelerau llogi llawn ar gael ar gais, a rhaid llofnodi ffurflen bwcio i gydnabod eich bod wedi darllen yr amodau a’r telerau hyn adeg llogi.


Newydd ar gyfer 2026 – Treiciau Cargo Trydan

Rydyn ni’n falch o gyflwyno ein treiciau cargo trydan newydd sbon – y ffordd berffaith o grwydro gyda’r plantos yn yr awyr agored.

Wedi eu cynllunio i gario plant yn ddiogel, mae’r treiciau yma’n ei gwneud hi’n hawdd (ac yn hwyl!) mwynhau reid hamddenol gyda’ch gilydd. Codwch bicnic, llogwch dreic ac ewch am daith i fwynhau golygfeydd Llyn Brenig.

• BWCIO NAWR •

Digwyddiadau i ddod

24-24
Oct
Rali Cambria

Yn enwog am ei rasys ymestynnol trwy fforestydd Cymru, mae Rali Cambria’n parhau i ddenu cystadleuwyr o’r safon uchaf o bob rhan o Brydain a’r tu hwnt.

• DARLLEN MWY •
28-31
Oct
Llwybr Calan Gaeaf

Ymunwch â ni am ychydig o hwyl arswydus wrth ymarfer eich sgiliau ditectif ar ein llwybr Calan Gaea’!

• DARLLEN MWY •
1-31
Apr   Dec
Cystadleuaeth Pysgota Tag

Ffeindiwch dag a bachwch ddiwrnod o logi cwch am ddim. Mae’n RHAD AC AM DDIM!

• DARLLEN MWY •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR