Celf, Crefftwaith a

Chofroddion

yn Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Siop Anrhegion Llyn Brenig


Galwch heibio i’n Siop Anrhegion sydd wedi cael ei hailwampio’n ddiweddar i brynu cofrodd i gofio’ch ymweliad, neu’n rhodd i rywun annwyl. Rydyn ni’n gwerthu crefftwaith crefftwyr lleol, llyfrau Cymraeg a Saesneg i oedolion a phlant, tlysau unigryw, addurniadau i’r cartref, llestri, printiau gwych gan ffotograffwyr lleol a deunyddiau unigryw Prosiect Gweilch Llyn Brenig.

Dylid nodi bod yr holl nwyddau’n gyfyngedig ac yn amodol ar argaeledd stoc.

Tocynnau Rhodd


Ansicr beth i’w brynu am ben-blwydd, pen-blwydd priodas neu fel cofrodd? Gellir gwario Tocynnau Rhodd Llyn Brenig yn Siop Anrhegion Llyn Brenig, Siop Caffi Glan y Llyn, neu gallant fynd tuag at amrywiaeth eang o Chwaraeon Dŵr, Llogi Beics neu Weithgareddau Pysgota. Ffoniwch 01490 389 227 neu e-bostiwch llynbrenig@dwrcymru.com i drefnu tocyn rhodd.

Rhai o’n Hoff Nwyddau


Carthenni Cymreig

Porwch trwy ein dewis eang o garthenni gwlân Cymreig. Gydag amrywiaeth o batrymau a lliwiau, bydd un o’r rhain yn ychwanegiad chwaethus at unrhyw gartref, Mae prynu carthen fel buddsoddi mewn cwtsh mawr cynnes.

Canhwyllau ‘A Little Bit Different’

Ychwanegwch fflach o oleuni i’ch bywyd gyda channwyll persawrus gan y cwmni ‘Little Bit Different’. Mae’r canhwyllau persawrus yma’n cael eu gwneud â llaw yng Nghymru, mae eu dyluniad yn brydferth ac maen nhw’n arogli’ hyfryd hefyd. Maen nhw’n cael eu gwneud o gwyr soi ac peraroglau figan ac ecogyfeillgar o’r safon uchaf. Gydag negeseuon Cymraeg hyfryd ar y labeli fel Caru Ti a Llongyfarchiadau.


Tlysau

Mae gennym ddewis eang o dlysau o bob steil. Mae gennym grogdlysau, clustdlysau a breichledi modern a thraddodiadol. Un o’n hoff ddylunwyr yw Carrie Elspeth, crefftwraig o Gymru sy’n dweud ei bod yn creu ei holl gynnyrch â chariad. Byddwch wrth eich bodd ar ei Chasgliad Sentiment sy’n cynnig negeseuon o’r galon i anwyliaid.


Binocwlars

I gael golwg fanylach ar adar a bywyd gwyllt Brenig, edrychwch ar ein casgliad newydd sbon o binocwlars. Rydyn ni’n stocio modelau o gasgliad Hawke (Frontier, Endurancem Nature-Trek a Vantage). Mae’r prisiau’n dechrau o £69.99 ac maen nhw’n dod â gwarant oes.

Uchafbwyntiau Eraill


Y Siop Bysgota

Mae ein Siop Bysgota’n stocio popeth sydd ei hangen i fynd allan ar y dŵr i fachu pysgodyn gan gynnwys Hawlenni Pysgota a Thacl Pysgota.

• MANYLION PELLACH •

Caffi Glan y Llyn

Mwynhewch ddiod gynnes, cacen gartref neu bryd poeth o’n bwydlen dymhorol wrth ymhyfrydu yn y golygfeydd bendigedig yng nghaffi Glan y Llyn.

• MANYLION PELLACH •

Arddangosfa’r Gweilch

Lledwch eich adennydd i archwilio arddangosfa Prosiect Gweilch Brenig, dysgwch am hanes y prosiect a dilynwch ein hadar trwy gydol y tymor.

• MANYLION PELLACH •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU