Pysgota Brithyll â Phlu
Cydnabyddir taw Llyn Brenig yw un o bysgodfeydd brithyll pen dŵr gorau’r DU.
Gyda 14m / 23km o lannau, hwn yw un o’r llefydd gorau i bysgota yng Nghonwy (ac efallai’r Gogledd i gyd!) ac mae’n aml yn cynnal gornestau rhyngwladol.
Mae’r llyn wedi ei stocio â brithyll seithliw ac mae ein pysgod yn cael eu magu ar y safle yn nyfroedd oer Llyn Brenig, sy’n galluogi iddynt ymgynefino ac ennill eu plwyf fel brwydrwyr caled.
Pysgota â phlu yn unig a ganiateir yn Llyn Brenig, ac mewn cwch yw’r ffordd orau o wneud, ond cewch bysgota o’r lan hefyd. Argymhellir bwcio cwch ymlaen llaw.
Os ydych chi’n newydd i bysgota â phlu, gallwch fwcio sesiwn blasu pysgota â phlu yn y Ganolfan Ymwelwyr ar 01490 389227. Mae’r sesiynau blasu yma’n anrheg hyfryd neu gall fod yn weithgaredd grŵp hwyliog i’r rhai sy’n ymweld â Chonwy.
Cronfa Alwen
Gallwch brynu hawlenni i bysgota yng Nghronfa Alwen sydd gerllaw hefyd. Pysgota â phlu yn unig a ganiateir ar gyfer y stoc o Frithyll Seithliw, ac mae’n lle gwych am bysgota aml-ddull lle gallwch bysgota â throellwr, plu neu ag un abwydyn naturiol, ac eithrio i’r gogledd i’r bont lle ceir pysgota â phlu yn unig.
Trout Fishing Terms and Conditions must be adhered to during your Trout Fishing adventure at Llyn Brenig.