Ymweld â

Phrifddinas

Antur Ewrop

Gan Dŵr Cymru

Pethau i’w Gwneud yn y Gogledd


Cafodd I’m a celebrity ei ffilmio gerllaw yng Nghastell Gwrych y llynedd, ond roedd hwn yn lle bendigedig i ymweld â hi ymhell cyn i Ant, Dec a’r criw o selebs fentro draw!

Mae digonedd o bethau i’w gwneud yn y Gogledd. Fel Prifddinas Antur Ewrop, mae atyniadau, gweithgareddau a chwaraeon dŵr yr ardal yn dod yn fyd-enwog. Mae gennym reilffyrdd, traethau, swau ac acwaria, cestyll a chaerau, amgueddfeydd ac orielau, tirnodau adnabyddus, parciau a gerddi.

Gyda’r holl bethau hyn i’w gweld a’u gwneud, efallai y byddwch am aros am gyfnod. Mae pob math o lety ar gael yma, felly rydych chi’n sicr o ddod o hyd i rywbeth sydd at eich dant a’ch cyllideb chi. O westai moethus, tafarndai lleol braf, perlau o lety hunanddarpar, i wersylla o dan y sêr – neu glampio i’r rhai sy’n mwynhau gwersylla mwy moethus.

Anturiaethau Eraill i’w Darganfod


Am le bach, mae gan y Gogledd restr faith o leoedd i aros, pethau i’w gweld a’u gwneud, a gweithgareddau antur awyr agored gorau’r byd. Mae’r opsiynau’n ddi-ben-draw, ond dyma ambell i syniad i’w hychwanegu at eich rhestr i gyd-fynd â’ch ymweliad â Llyn Brenig.

Ewch i Go North Wales i chwilio am syniadau am ddiwrnodau allan yn y Gogledd ac i gynllunio’ch ymweliad.

Antur

Am antur a hanner, ewch i Velocity Zip World yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda. Gosodwch y teclyn llywio â lloeren i LL57 4YG, a byddwch chi yno cyn pen yr awr i wibio i lawr y llinellau sip hiraf a chyflymaf o gwmpas. Mae Bounce Below yn cynnig trampolîns tanddaearol, ac mae Surf Snowdonia’n cynnig lagŵn syrffio artiffisial hefyd.

Ymweld ag ‘I’m a Celebrity’

Os yw hi’n ddigon da i’r selebs, mae hi’n ddigon da i ni, ac mae hi’n llai nag 20 milltir o Lyn Brenig. Ymddiriedolaeth Cynnal Castell Gwrych Yn ôl yr hanes, y Normaniaid adeiladodd y castell cyntaf yng Ngwyrch yn y 12fed ganrif. Adeilad rhestredig Gradd 1 yw’r castell sy’n sefyll ar fryn coediog yn edrych allan dros Fôr Iwerddon heddiw. Crwydrwch trwy’r tiroedd a bwciwch le ar helfa ysbrydion os feiddiwch chi.

Bwyd a Diod

Tafliad carreg o’r môr a thraeth bendigedig Porth Eirian mae bistro arobryn Bryn Williams. Mae’r fwydlen yn llawn cynnyrch Cymreig sydd wedi cael ei gynhyrchu mor lleol â phosibl. Mae’r anffurfiol hamddenol i’r lle, â chegin agored lle mae tîm Bryn yn troi cynnyrch syml, lleol a thymhorol yn fwyd bistro anhygoel; gyda rhywbeth at ddant pawb!

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU