Ewch allan i’r awyr iach a chysylltu â byd natur wrth grwydo Llwybr Beicio’r Ddau Lyn. Beiciwch i fyny i Warchodfa Natur Gors Maen Llwyd, cyn igam-ogamu i lawr y llwybrau troellog gan groesi pontydd ac edmygu glannau prydferth Llyn Alwen.
Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi dod â’ch beic, neu os ydych chi’n newydd i’r byd beicio, mae gennym feiciau o bob maint i’w llogi yn Llyn Brenig.
Os ydych chi’n chwilio am olygfeydd bendigedig, mae Llwybr Beicio’r Ddau Lyn yn berffaith i chi. Gwnewch y mwyaf o’r diwrnod ar daith 14.5 milltir yn yr awyr iach, a fydd yn cymryd tua 3-4 awr i’w gwblhau.
Cyfeirnod Map Arolwg Ordnans SH97325530.
Ewch dros yr argae, a throwch i'r chwith ar y diwedd. Dilynwch y lan yr holl ffordd i'r diwedd ac i fyny i'r llwybr sy'n rhedeg yn baralel â'r ffordd fawr. Dilynwch y llwybr i lawr, trwy'r goedwig ac yna i ben Gwarchodfa Natur bendigedig Gors Maen Llwyd.
I lawr a thrwy'r 'Ddwy Giât', dros Bont Brenig a dilynwch farciwr Llwybr y Ddau Lyn yn syth o'ch blaen. Bydd hyn yn mynd â chi'r i'r ffordd fawr, cymrwch ofal wrth groesi, a dechreuwch ddilyn marcwyr y llwybr unwaith eto'n syth.
Dilynwch y llwybr i Hafod Elwy, mae'r llwybr yn arw mewn mannau! Dilynwch y marcwyr ac fe gyrhaeddwch chi lan Llyn Alwen a'r bont bren a fydd yn mynd â chi dros y dŵr i ddringo Mynydd Hiraethog. Ewch i lawr a thrwy'r giât ar y gwaelod. Gan bwyll yn y fan yma er mwyn cadw llygad am y marcwyr wrth igam-ogamu i lawr, ac nôl i fyny, gan groesi pontydd a thorri trwy'r coed. Cadwch lygad am gerddwyr a fydd yn cerdded y rhan yma o'r llwybr gyda'r cloc!
Ar ôl cyrraedd y lan, dilynwch y llwybr sy'n mynd â chi nôl dros yr argae ac i'r maes parcio. O'r maes parcio, bydd y marcwyr yn mynd â chi tua'r dde ar hyd y ffordd, wedyn i'r chwith a nôl trwy'r goedwig.
Trwy ddilyn y marcwyr, fe ddewch chi nôl at y ffordd fawr bron a bod yn union gyferbyn â phrif fynedfa Llyn Brenig. Byddwch yn ofalus wrth groesi, ewch lawr tua'r argae ac i'r chwith yn ôl i'r Ganolfan Ymwelwyr.
9.5m / 14.5km. Does yna’r un ffordd well o fwynhau’r awyr agored wrth feicio trwy’r dawelwch y goedwig a mwynhau golygfeydd o’r glannau prydferth.
• EWCH I’R LLWYBR •7m / 11km. Beiciwch ar hyd llwybr bendigedig y lan ac i ddyfnderoedd y goedwig, a darganfyddwch olygfeydd godidog wrth gwblhau Llwybr Beicio Alwen.
• EWCH I’R LLWYBR •2.5m / 4km. Darganfyddwch Lwybr Beicio’r Argae wrth ddringo’r llethrau i fwynhau golygfeydd hyfryd.
• EWCH I’R LLWYBR •