Dwi’n dwlu ar y lle yma. Mae cymaint o deithiau cerdded bendigedig. Mae’n lle hyfryd i dreulio amser fel teulu. Parc anhygoel i’r plant. Caffi mawr. Lle gwych i fynd â beic neu sgwter, a gallwch hyd yn oed logi cwch.
Google Review- 2020
Os nad yw 2500 erw o goedwigoedd, dolydd a llynoedd yn ddigon i chi, mae gennym Faes Chwarae Antur hefyd. Mae chwarae yn yr awyr agored yn llesol dros ben i iechyd meddwl a chorfforol pobl ifanc, a’r rhai â chalon ifanc hefyd, felly mae ymweliad â’r lle yma’n ddewis buddiol i bawb.
Mae hi mewn lle delfrydol ger y ganolfan ymwelwyr â golygfeydd pell dros y dŵr. Gallwch gadw llygad ar y plant wrth fwynhau paned o’r peiriant gwerthu diodydd poeth cyfagos, bwyd neu ddiod o’r caffi yn y ganolfan ymwelwyr, neu cewch ddod â’ch picnic eich hun.
Mae’r ardal chwarae helaeth yn cynnwys siglenni, llithrennau, fframiau dringo, offer siglo a llinell sip bach hynod boblogaidd. Galwch draw cyn neu ar ôl mwynhau heddwch a llonyddwch y goedwig a’r llynoedd, ond cofiwch alw draw! A chofiwch, mae croeso i chi sgrechian a chwerthin nerth eich pen yma!
Ardal ddiogel â’r rhyddid i redeg yn wyllt a mwynhau’r awyr iach. Mae’n ddigon posibl y gwelwch chi ambell i dad gystadleuol yn ei gynefin yn siglo o’r bariau mwnci hefyd!
Rhaid cadw llygad ar y plant bob amser yn y Maes Chwarae Antur, ond nid oes rhaid i’r oedolion wibio i lawr y llinell sip (er mae’n siŵr y bydd hi’n demptasiwn). Cadwch gŵn draw o’r ardal yma os gwelwch yn dda.
Tip pwysig – caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich ymweliad am na fydd hi’n hawdd llusgo’r plant i ffwrdd!