Llwybr Beicio

Elorgarreg

yn Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Llwybr Beicio Elorgarreg


Edmygwch y golygfeydd godidog a chael yr adrenalin yn pwmpio wrth i chi weithio’ch ffordd i fyny trwy’r gêrs a’ch herio’ch hun ar y bryniau serth.

Os ydych chi’n teimlo’n anturus, yna Elorgarreg yw’r llwybr beicio perffaith i chi! Beiciwch yn galed i fyny’r bryn i fwynhau golygfeydd godidog o’r llyn a cyn troelli nôl i lawr ar hyd trac y goedwig.

Oeddech chi’n gwybod fod digonedd o feics i’w llogi yn Llyn Brenig, gan gynnwys 3 maint gwahanol i oedolion, beics i blant a hyd yn oed trelars beic.

• LLOGI BEIC •

Manylion y Llwybr

Nid yw Llwybr Beicio Elorgarreg i’w gwangalon! Mwynhewch daith wefreiddiol 1 awr o hyd ar draws yr argae prydferth a thrwy goedwigoedd bendigedig, gan ddychwelyd ar hyd waelod Argae Brenig. Ond byddwch yn barod am lethrau serth, y llwybr perffaith i’r rhai sy’n hoffi mentro!

Difficulty: Anodd

Distance: 5m / 8km

Time: 1 Awr

Eich Llwybr


Man Cychwyn

Cyfeirnod Map yr Arolwg Ordnans SH977546.

1

Ewch yn syth am yr argae o'r Ganolfan Ymwelwyr, trowch i'r dde a mwynhewch yr olygfa o'r llyn wrth groesi'r argae. Trowch i'r chwith eto ar ôl croesi'r argae gan ddilyn ffordd glan y llyn.

2

Ymhen rhyw ¼ milltir, croeswch y grid gwartheg ac ewch tua'r dde – cadwch lygad am y marcwyr sy'n dangos y ffordd! Ewch i fyny trwy'r gêrs wrth fynd i fyny'r bryn.

3

Ymhen rhyw 1 filltir arall, arafwch er mwyn cadw llygad am y marciwr ar y dde a fydd yn eich cyfeirio tua'r dde ac i lawr ar hyd trac y goedwig – Darn hyfryd o lwybr i lawr y bryn, ond gan bwyll am ei bo dhi'n gallu bod yn llithrig yn y gaeaf ac yn galed yn yr haf.

4

Ewch trwy'r giât wrth y parc carafanau, i fyny'r ffordd a throwch i'r dde eto – Ond pwyll piau hi ar ymyl y ffordd.

5

Dringwch i fyny'r bryn, trowch i'r dde trwy'r giât, i'r chwith wrth ymyl yr argae, a nôl i'r man cychwyn.

Llwybrau eraill a allai fod o ddiddordeb


Llwybr Beicio Cylchol y Llynnoedd

9.5m / 14.5km. Does yna’r un ffordd well o fwynhau’r awyr agored wrth feicio trwy’r dawelwch y goedwig a mwynhau golygfeydd o’r glannau prydferth.

• EWCH I’R LLWYBR •

Llwybr Beicio Alwen

7m / 11km. Beiciwch ar hyd llwybr hyfryd glan y dŵr ac i ddyfnderoedd y goedwig a darganfyddwch olygfeydd godidog wrth seiclo ar hyd Llwybr Beicio Alwen.

• EWCH I’R LLWYBR •

Llwybr Beicio’r Argae

2.5m / 4km. Darganfyddwch Lwybr Beicio’r Argae wrth ddringo’r llethrau i fwynhau golygfeydd hyfryd.

• EWCH I’R LLWYBR •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU