I ffwrdd â chi ar ddwy olwyn ar hyd llwybr hyfryd glan y llyn ac i ddyfnderoedd y goedwig i ddarganfod golygfeydd godidog ar hyd y ffordd.
Os nad ydych wedi dod â’ch beic neu os ydych chi’n newydd i’r byd beicio, gallwch logi beic yn Llyn Brenig.
Mwynhewch daith hyfryd ar y llwybr cylchol 7 milltir o hyd o amgylch Cronfa Alwen, a fydd yn cymryd tua 1.5 awr.
Cyfeirnod Map yr Arolwg Ordnans SH 9355 5454
Dilynwch y marcwyr am drac y goedwig i ddechrau'ch taith.
Ymhen rhyw 1½ milltir, cadwch lygad am y marciwr ar y chwith sy’n mynd â chi trwy’r coed i lawr at y llwybr hyfryd sy'n rhedeg ar hyd glan y llyn.
Dilynwch y lan, ewch trwy’r giât a thrwy’r goedwig! Wrth ddod allan o'r goedwig, trowch i’r chwith ar hyd y llwybr ac yna i’r chwith eto dros y bont bren dros y llyn.
Dringwch i'r top ac fe welwch chi olygfeydd godidog i’r chwith ac i’r dde. Ewch i lawr a thrwy’r giât, a dilynwch y marcwyr wrth igam-ogamu nôl at lan y llyn.
Ewch nôl am yr argae, ewch drosti a dyna chi nôl yn y maes parcio!
Ewch dros yr argae a dilynwch lwybr glan y dŵr sy’n mynd â chi i fyny ac i mewn i'r coed – cadwch lygad yn agored am feicwyr bob amser, rydyn ni’n gofyn iddyn nhw ddilyn y llwybr yn wrth-glocwedd.
Dilynwch y marcwyr sy’n mynd â chi ar hyd trac llydan y goedwig, gan igam-ogamu dros y pontydd ac ar hyd llwybrau bach cul.
I fyny'r bryn, trwy'r giât ac i fyny i gopa Mynydd Hiraethog – cewch olygfeydd godidog 360 gradd o'r fan yma! Ewch i lawr yr ochr arall hyd at y bont bren.
Dros y bont, ewch yn syth ymlaen trwy'r giât a dilynwch y marcwyr ar y dde.
Ewch drwy'r goedwig, a fydd yn dod â chi nôl at y lan cyn mynd â chi nôl ar hyd ffordd y goedwig lle gallwch droi i'r dde i mewn i faes parcio Alwen.
9.5m / 15km. Wrth feicio cewch fwynhau golygfeydd godidog dros y dŵr ac amgylchedd bendigedig y gors.
• EWCH I’R LLWYBR •9.5m / 14.5km. Does yna’r un ffordd well o fwynhau’r awyr agored na beicio trwy’r dawelwch y goedwig a mwynhau golygfeydd o’r glannau prydferth.
• EWCH I’R LLWYBR •14.5m / 23km. Beiciwch i fyny i Warchodfa Natur Gors Maen Llwyd, gan igam-ogamu ar hyd y llwybrau, croesi’r pontydd, ac edmygu glannau prydferth Alwen.
• EWCH I’R LLWYBR •