Mae’r llwybr beicio hyfryd yma’n cyfuno llwybrau Brenig ac Alwen, does yna’r un ffordd well o edmygu byd natur nac wrth feicio trwy’r heddwch y goedwig.
Os nad oes gennych chi’ch beic eich hun, mae cyfleusterau llogi beics ar gael yn Llyn Brenig. Mae dewis da o feics i oedolion a phlant, ynghyd â threlars beics.
O’r goedwig i’r lan, mae pob math o olygfeydd i’w mwynhau ar Lwybr Beicio Cylch y Llynnoedd, mae’r llwybr bendigedig yma’n 9.5 milltir o hyd, ac yn cymryd tua 1-2 awr i’w gwblhau.
Cyfeirnod Map Arolwg Ordnans SH97325530.
O'r Ganolfan Ymwelwyr, ewch am yr argae, wedyn trowch i'r dde i fyny'r bryn tuag at y brif fynedfa.
Edrychwch i'r dde wrth y brif fynedfa, a chymrwch ofal wrth groesi'r ffordd. Dilynwch y marcwyr am 'Lwybr Cyswllt y Llynnoedd' bron yn syth, a fydd yn mynd â chi i Faes Parcio Alwen.
Trowch i'r dde wrth ymadael â'r maes parcio gan ddilyn marcwyr y llwybr cylchol. Ymhen tua 1.5 milltir, cadwch lygad am y marciwr ar y chwith sy'n mynd â chi trwy'r goedwig i'r lan! Dan byr technegol braf tuag i lawr, ond cadwch lygad am gerddwyr yn dod atoch.
Dilynwch y llwybr ar hyd y lan a fydd yn mynd â chi trwy'r goedwig ac allan yr ochr arall. Ewch tua'r dde, gan ddilyn marciau'r llwybr cylchol eto.
Mae'r llwybr yma, a fydd yn profi eich sgiliau beicio am ei fod yn arw mewn mannau, yn mynd â chi'r holl ffordd nôl i'r ffordd fawr, croeswch y ffordd yn ofalus, a dyna chi nôl ym Mrenig. Dilynwch y llwybr, a throwch i'r dde, a dyna chi nôl yn y ganolfan ymwelwyr.
5m / 8km. Beiciwch yn galed i fyny’r bryn, mwynhewch olygfeydd godidog o’r llyn cyn igam-ogamu i lawr ar hyd trac y goedwig.
• EWCH I’R LLWYBR •14.5m / 23km. Beiciwch i fyny i Warchodfa Natur Gors Maen Llwyd, gan igam-ogamu ar hyd y llwybrau, croesi’r pontydd, ac edmygu glannau prydferth Alwen.
• EWCH I’R LLWYBR •9.5m / 15km. Wrth feicio cewch fwynhau golygfeydd godidog dros y dŵr ac amgylchedd bendigedig y gors.
• EWCH I’R LLWYBR •