Ymunwch â ni yn Llyn Brenig am noson arbennig i’r teulu’r Nadolig hwn.
Darganfyddwch y cymysgedd perffaith o anturio ac ymlacio yn Llyn Brenig.
Dechreuwch gyda dwyawr o logi beics mynydd a chrwydro’r llwybrau hardd trwy goedwigoedd a thros rostiroedd bendigedig Llyn Brenig. Ar ôl cyffro’r daith, gallwch ymlacio’r cyhyrau a thawelu’r meddwl â sawna a chyfle i ymdrochi nôl wrth y ganolfan ymwelwyr.
Wedyn cewch adfywio dros bicnic blasus o gynhwysion lleol – wrth ymyl y ganolfan neu gallwch fynd ag e gyda chi am dro i le braf arall ar hyd llwybr y llyn.
Wedyn cewch adfywio dros bicnic blasus o gynhwysion lleol – wrth ymyl y ganolfan neu gallwch fynd ag e gyda chi am dro i le braf arall ar hyd llwybr y llyn.
Ymunwch â ni yn Llyn Brenig am noson arbennig i’r teulu’r Nadolig hwn.
Ymunwch â ni am Gystadleuaeth Pysgota Nadolig Llyn Brenig.
Ffeindiwch dag a bachwch ddiwrnod o logi cwch am ddim. Mae’n RHAD AC AM DDIM!