Ymunwch â ni yn Llyn Brenig am noson arbennig i’r teulu’r Nadolig hwn.
Darganfyddwch y cymysgedd perffaith o anturio a chrwydro yn Llyn Brenig…
Ewch allan am antur gyda dwy awr o logi beics mynydd, gan ddarganfod y llwybrau hardd sy’n igam-ogau trwy goedwigoedd bendigedig a thros rostiroedd helaeth Llyn Brenig. Wrth ddychwelyd, codwch eich cinio anturio o’r ganolfan ymwelwyr a gwledda ar eich picnic o fwydydd lleol!
Nesaf, galwch eich criw at ei gilydd ac ewch allan ar y dŵr i dreulio awr yn un o’n cychod hamdden.
Chi sy’n dewis beth i’w wneud ar ôl dychwelyd i’r lan, ond beth am ymestyn eich ymweliad? Holwch am opsiynau am ddim ac â thâl ar gyfer y prynhawn yn y ganolfan ymwelwyr.
Ymunwch â ni yn Llyn Brenig am noson arbennig i’r teulu’r Nadolig hwn.
Ymunwch â ni am Gystadleuaeth Pysgota Nadolig Llyn Brenig.
Ffeindiwch dag a bachwch ddiwrnod o logi cwch am ddim. Mae’n RHAD AC AM DDIM!