Llwybr Cerdded

yr Argae

yn Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Llwybr Cerdded yr Argae


Taith gerdded fer o amgylch Argae Brenig, gallwch ddisgwyl i’r daith yma gymryd tua 1 awr ac mae golygfeydd hyfryd ar hyd y ffordd.

Mae Llyn Brenig yn lle poblogaidd a phrydferth i fwynhau picnic hamddenol ar lan y dŵr. Gallwch addasu’r daith yma trwy fynd i ben y “twmpath” ar yr argae ac aros i gael bwyd wrth fwynhau golygfa hyfryd o’r llyn.

Manylion y Llwybr

Taith fer o amgylch argae Brenig. Croeso i chi ddod â chŵn ond rhaid eu cadw dan reolaeth dynn am fod y llwybr yn mynd trwy gaeau defaid.

Difficulty: Cymedrol

Distance: 2.5m / 4km

Time: 1 awr

Eich Llwybr


Man Cychwyn

Cyfeirnod map SH977546.

1

Ewch yn syth am yr argae o'r Ganolfan Ymwelwyr, trowch i'r chwith a mwynhewch yr olygfa o'r llyn wrth groesi.

2

Trowch i'r dde a dilynwch y llwybr i'r giât ar y gwaelod.

3

Trowch i'r dde eto, a chymrwch ofal wrth ddilyn y ffordd.

4

Ar ben y bryn, trowch i'r chwith trwy'r giât.

5

Trowch i'r chwith wrth ymyl yr argae, a dyna chi nôl yn y man cychwyn.

Llwybrau eraill a allai fod o ddiddordeb


Llwybr Cerdded Elorgarreg

5m / 8km. Taith gerdded gymedrol 5 milltir o hyd trwy’r goedwig. Gallwch ddisgwyl i Lwybr Cerdded Elorgarreg gymryd tua 2 awr i’w gwblhau.

• EWCH I’R LLWYBR •

Llwybr Cerdded Brenig

9.5m / 15km. Yr antur perffaith yn yr awyr agored, gallwch ddisgwyl i’r daith gylchol gymedrol yma o amgylch Llyn Brenig gymryd tua 4 awr.

• EWCH I’R LLWYBR •

Llwybr Cerdded y Ddau Lyn

14.5m / 23km. Dilynwch y llwybrau sy’n igam-ogamu trwy’r coed i drac y goedwig. Mae golygfeydd a synau’r llyn a’r tir gwyrdd yn fythgofiadwy.

• EWCH I’R LLWYBR •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU