Dilynwch y llwybrau sy’n igam-ogamu trwy’r coed i drac y goedwig. Taith 4.5 awr yw hon ac nid yw’n un i’r gwangalon, ond mae golygfeydd a synau’r llyn a’r tir gwyrdd ar hyd y ffordd yn fythgofiadwy.
Taith gerdded gymedrol ar hyd y lan a thrwy’r goedwig. Croeso i chi ddod â chŵn ond rhaid eu cadw dan reolaeth dynn am fod y llwybr yn mynd trwy gaeau defaid.
Cyfeirnod map SH 9732 5530
O'r Ganolfan Ymwelwyr, ewch tua'r argae a throwch i'r dde i fyny'r bryn tua'r brif fynedfa.
Edrychwch i'r chwith wrth fynd allan o'r brif fynedfa, a chymrwch ofal wrth groesi'r ffordd. Dilynwch farcwyr 'Cyswllt y Llynnoedd' bron yn syth, a fydd yn mynd â chi i faes parcio Alwen. O'r maes parcio, croeswch yr argae a dilynwch y llwybr ar hyd y lan ac i fyny trwy'r coed hyd at drac y goedwig. Dilynwch y marcwyr ar gyfer Llwybr y Ddau Lyn, ar hyd trac y goedwig trwy'r coed ac i fyny i Fynydd Hiraethog.
Ar y ffordd i lawr o Fynydd Hiraethog, croeswch y bont a dilynwch y llwybr a fydd yn mynd â chi'r holl ffordd nôl i'r ffordd fawr. Croeswch y ffordd, a dyna chi nôl ym Mrenig. Ewch yn syth ymlaen wrth y gyffordd nesaf. Croeswch hen bont garreg Pont Brenig ac ewch yn syth ymlaen eto wrth y gyffordd nesaf. Bydd hyn yn mynd â chi at y giât a'r llwybr sy'n rhedeg ar hyd ymyl y ffordd trwy warchodfa natur Gors Maen Llwyd.
Cymrwch ofal ar y llwybr wrth ymyl y ffordd fawr, trowch i'r dde ar y top a mwynhewch y golygfeydd godidog ar y ffordd nôl i lawr.
Arhoswch ar ffordd y lan yr holl ffordd nes cyrraedd pen arall yr argae. Trowch i'r dde ar ôl cyrraedd pen arall yr argae a dyna chi nôl i'r dechrau!
5m / 8km. Taith gymedrol 5 milltir o hyd trwy’r goedwig. Gallwch ddisgwyl i Lwybr Cerdded Elorgarreg gymryd tua 2 awr i’w gwblhau.
• EWCH I’R LLWYBR •9.5m / 14.5km. Y gorau o ddau fyd! Mae’r daith gerdded gymedrol yma’n cyfuno Llwybrau Cerdded Brenig ac Alwen, ac mae golygfeydd bendigedig ar hyd y ffordd.
• EWCH I’R LLWYBR •7m / 11.5km. Taith gedded gylchol gymedrol o amgylch Cronfa Alwen, gallwch ddisgwyl i Lwybr Cerdded Alwen gymryd tua 3 awr i’w gwblhau.
• EWCH I’R LLWYBR •