Oeddech chi’n gwybod fod bryniau Clwyd yn gorwedd i’r dwyrain i Lyn Brenig, a bod modd gweld y môr tua Phrestatyn a Gronant ar ddiwrnod clir?
Taith gedded dros yr argae a thrwy’r goedwig, gan ddychwelyd ar hyd waelod argae Brenig. Croeso i chi ddod â chŵn ond rhaid eu cadw dan reolaeth dynn am fod y llwybr yn mynd trwy gaeau defaid.
Cyfeirnod map SH977546.
Ewch yn syth am yr argae o'r Ganolfan Ymwelwyr, trowch i'r chwith a mwynhewch yr olygfa o'r llyn wrth groesi – trowch i'r chwith ar ben yr argael gan ddilyn y llyn.
Ar ôl tua ¼ milltir, trowch i'r dde a chroesi'r grid gwartheg. Wedyn ewch tua'r dde – gan gadw llygad am y marcwyr sy'n dangos y ffordd!
Tua 1 filltir ymhellach ymlaen eto, cadwch lygad am y marciwr ar y dde fydd yn mynd â chi i lawr ar hyd llwybr y goedwig.
Ewch trwy'r giât wrth y maes carafanau, i fyny'r ffordd ac i'r dde eto. Cymrwch ofal ar ochr y ffordd.
Ar ben y bryn, ewch i'r dde trwy'r giât, i'r chwith wrth ymyl yr argae, a dyna chi nôl i'r dechrau!
9.5m / 15km. Yr antur perffaith yn yr awyr agored, gallwch ddisgwyl i’r daith gylchol gymedrol yma o amgylch Llyn Brenig gymryd 4 awr.
• EWCH I’R LLWYBR •9.5m / 14.5km. Y gorau o ddau fyd! Mae’r daith gerdded gymedrol yma’n cyfuno Llwybrau Cerdded Brenig ac Alwen, ac mae golygfeydd bendigedig ar hyd y ffordd.
• EWCH I’R LLWYBR •7m / 11.5km. Taith gylchol gymedrol o amgylch Cronfa Alwen, gallwch ddisgwyl i Lwybr Cerded Alwen gymryd tua 3 awr i’w gwblhau.
• EWCH I’R LLWYBR •