Llwybr Cerdded

Cylch y Llynnoedd

yn Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Llwybr Cerdded Cyswllt y Llynnoedd


Taith gerdded hyfryd trwy goedwigoedd y ddau lyn, â golygfeydd godidog.

Y lle delfrydol i fynd am dro amser cinio, yn y bore bach (neu i godi archwaeth am ddarn o gacen yng Nghaffi Glan y Llyn!) mae Llwybr Cerdded Cyswllt y Llynnoedd yn un da am dro bach hanner awr.

Manylion y Llwybr

Llwybr godidog trwy’r coed ac ymlaen at y golygfeydd panoramig agored sy’n cysylltu’r ddau lyn a’u llwybrau.

Difficulty: Hawdd

Distance: 2.55m / 4km

Time: 45 munud (un ffordd)

Eich Llwybr


Man Cychwyn

Cyfeirnod Map yr Arolwg Ordnans SH 96118 57146.

1

Ewch trwy'r coed tua'r ffordd fawr (B4501). Ar ôl cyrraedd y ffordd, fe welwch fod y llwybr yn parhau yn union gyferbyn. Cymrwch ofal wrth groesi.

2

Ewch trwy'r coed eto, gan groesi yn syth ymlaen wrth gyrraedd ffordd y goedwig a dilyn y llwybr o'r fan yna eto.

3

Fe welwch chi'r giatiau (os yw'r tywydd yn caniatáu!) sy'n arwain ymlaen trwy Warchodfa Natur Hafod Elwy ar ddiwedd llinell y coed.

4

Mae’r golygfeydd yn agor allan yn odidog eto yn y fan yma i’r chwith ac i’r dde. Dilynwch y marcwyr nes eich bod chi’n mynd i lawr am Lyn Alwen.

5

Parhewch i lawr y llwybr gan ddilyn y marcwyr, ac fe welwch chi’r bont bren hyfryd a fydd yn mynd â chi dros y dŵr, neu dilynwch y marcwyr i ddilyn llwybr o’ch dewis.

Llwybrau eraill a allai fod o ddiddordeb


Llwybr Cerdded Brenig

9.5m / 15km. Yr antur perffaith yn yr awyr iach, gallwch ddisgwyl i’r llwybr cylchol cymedrol yma o amgylch Llyn Brenig gymryd tua 4 awr i’w gwblhau.

• EWCH I’R LLWYBR •

Llwybr Cerdded Cylchol y Llynnoedd

9.5m / 14.5km. Y gorau o ddau fyd! Mae’r llwybr cerdded cylchol yma’n cyfuno Llwybr Cerdded Brenig a Llwybr Cerdded Alwen, ac mae golygfeydd godidog ar hyd y ffordd.

• EWCH I’R LLWYBR •

Llwybr Cerdded yr Argae

2.5m / 4km. Tro byr o amgylch Argae Brenig, bydd Llwybr Cerdded yr Argae’n cymryd tua 1 awr ac mae’n berffaith i deuluoedd a’u cŵn!

• EWCH I’R LLWYBR •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU