Llwybr Cerdded

Cylch y Llynnoedd

yn Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Llwybr Cerdded Cylchol y Llynnoedd


Y gorau o ddau fyd! Mae’r daith gerdded gylchol gymedrol yma’n cyfuno Llwybr Cerdded Brenig ac Alwen, ac mae yna olygfeydd bendigedig ar hyd y ffordd.

Oeddech chi’n gwybod bod nifer o arteffactau o’r Oes Efydd wedi dod i’r wyneb wrth adeiladu’r llyn. Roedd helwyr a chasglwyr Mesolithig yn defnyddio’r safle fel gwersyll. Mae gwaith ddadansoddi radiocarbon ar y golosg o’r tanau wedi dyddio hyn i tua 5700 CC. Gallwch ddilyn nifer o lwybrau archaeolegol, ac mae’r creiriau sydd i’w gweld yn cynnwys carnedd gylchog (tomen gladdu o’r Oes Efydd) a sawl crug!

Manylion y Llwybr

Mae’r llwybr cerdded yma’n cyfuno llwybrau Brenig ac Alwen. Croeso i chi ddod â chŵn ond rhaid eu cadw dan reolaeth dynn am fod y llwybr yn mynd trwy gaeau defaid.

Difficulty: Cymedrol

Distance: 9.5m / 14.5km

Time: 2 – 3 awr

Eich Llwybr


Man Cychwyn

Cyfeirnod map SH 9732 5530

1

O'r Ganolfan Ymwelwyr, ewch tua'r argae a throwch i'r dde i fyny'r bryn tua'r brif fynedfa.

2

Edrychwch i'r dde wrth y brif fynedfa, a chymrwch ofal wrth groesi'r ffordd. Dilynwch y marcwyr bron yn syth am 'Lwybr Cyswllt y Llynnoedd' a fydd yn mynd â chi i Faes Parcio Alwen.

Ewch i'r dde allan o'r maes parcio gan ddilyn marcwyr y llwybr cylchol, ymhen rhyw 1 ½ milltir, cadwch lygad am y marciwr ar y chwith a fydd yn mynd â chi trwy'r goedwig i lan y llyn.

Dilynwch y llwybr ar hyd y lan a fydd yn mynd â chi trwy'r goedwig ac allan yr ochr arall. Ewch tua'r dde, gan ddilyn marciau'r llwybr cylchol eto.

Bydd y llwybr yma, sy'n arw mewn mannau, yn mynd â chi'r holl ffordd nôl i'r ffordd fawr. Croeswch y ffordd a dilynwch y llwybr i'r gyffordd nesaf. Trowch i'r dde wrth y gyffordd. Dilynwch y llwybr ar hyd ymyl y llyn ac yn ôl i'r Ganolfan Ymwelwyr.

Llwybrau eraill a allai fod o ddiddordeb


Llwybr Cerdded yr Argae

2.5m / 4km. Taith gerdded fer o amgylch Argae Brenig, gallwch ddisgwyl i Lwybr Cerdded yr Argae gymryd tua 1 awr ac mae’n berffaith i deuluoedd a’u cŵn.

• EWCH I’R LLWYBR •

Llwybr Cerdded Elorgarreg

5m / 8km. Taith gymedrol, 5 milltir o hyd trwy’r goedwig. Gallwch ddisgwyl i Lwybr Cerdded Elorgarreg gymryd tua 2 awr i’w gwblhau.

• EWCH I’R LLWYBR •

Llwybr Cerdded Brenig

9.5m / 15km. Yr antur perffaith yn yr awyr agored, gallwch ddisgwyl i’r daith gerdded gylchol gymedrol yma o amgylch Llyn Brenig gymryd tua 4 awr i’w chwblhau.

• EWCH I’R LLWYBR •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU