Mae digonedd o fywyd gwyllt i’w weld ar hyd y ffordd. Yn y bore bach gallech fod yn ddigon ffodus i weld carw neu ddyfrgi; ac mae gwiwerod coch a moch daear, grugieir a boncathod i’w gweld. Ar rhai adegau o’r flwyddyn, gallech fod mor ffodus â gweld golygfa anhygoel y gwalch yn bachu pysgodyn o’r llyn.
Taith gylchol wrthglocwedd o gwmpas Llyn Brenig. Croeso i chi ddod â chŵn ond rhaid eu cadw dan reolaeth dynn am fod y llwybr yn mynd trwy gaeau defaid.
Cyfeirnod map SH97325530.
Ewch dros yr argae a throwch i'r chwith.
Dilynwch y tro pedol gan basio Hafoty ar y dde.
Ewch dros y grid gwartheg, i fyny'r bryn ac yn syth ymlaen, wedyn trowch i'r dde gan ddilyn y llwybr sy'n rhedeg ar hyd ymyl y ffordd trwy Warchodfa Natur Gors Maen Llwyd.
Ewch trwy'r giât allan o Warchodfa Natur Gors Maen Llwyd. Ewch yn syth ymlaen dros bont garreg Pont Brenig a throwch i'r chwith wrth y gyffordd nesaf.
Dilynwch y trac sy'n rhedeg ar hyd lan y llyn yr holl ffordd nôl i'r ganolfan. Trwy'r 'ddwy giât', dros Bont Brenig ac i'r chwith ar ddiwedd y llwybr.
7m / 11.5km. Taith gerdded gylchol gymedrol o amgylch Cronfa Alwen, gallwch ddisgwyl i Lwybr Cerdded Alwen gymryd tua 3 awr i’r gwblhau.
• EWCH I’R LLWYBR •9.5m / 14.5km. Y gorau o ddau fyd! Mae’r daith gerdded gymedrol yma’n cyfuno Llwybrau Cerdded Brenig ac Alwen, ac mae golygfeydd godidog ar hyd y ffordd.
• EWCH I’R LLWYBR •5m / 8km. Taith gerdded gymedrol 5 milltir o hyd trwy’r goedwig. Gallwch ddisgwyl i Lwybr Cerdded Elorgarreg gymryd tua 2 awr i’w gwblhau.
• EWCH I’R LLWYBR •