Did you know that most of the moorland around Llyn Brenig is in the Mynydd Hiraethog Site of Special Scientific Interest? Bronze Age Man used Brenig as a burial ground constructing cairn fields. Foundations of 16th century farmhouses also form part of the site’s trail.
Taith gerdded cylchol o amgylch Cronfa Alwen. Croeso i chi ddod â chŵn ond rhaid eu cadw dan reolaeth dynn am fod y llwybr yn mynd trwy gaeau defaid.
Cyfeirnod map SH977546.
Ewch am yr argae wrth fynd allan o'r maes parcio.
Dringwch i ben yr argae lle gwelwch olygfeydd anhygoel i'r chwith ac i'r dde. Ewch i lawr, trwy'r giât, a dilynwch y marcwyr wrth igam-ogamu nôl at lan y llyn.
Dilynwch y lan, ewch trwy’r giât a thrwy’r goedwig. Ym mhen draw'r coed, trowch i’r chwith ar hyd at y llwybr ac i’r chwith eto dros y bont bren dros y llyn.
9.5m / 15km. Yr antur perffaith yn yr awyr iach, gallwch ddisgwyl i’r llwybr cylchol cymedrol yma o amgylch Llyn Brenig gymryd tua 4 awr i’w gwblhau.
• EWCH I’R LLWYBR •9.5m / 14.5km. Y gorau o ddau fyd! Mae’r llwybr cerdded cylchol yma’n cyfuno Llwybr Cerdded Brenig a Llwybr Cerdded Alwen, ac mae golygfeydd godidog ar hyd y ffordd.
• EWCH I’R LLWYBR •2.5m / 4km. Tro byr o amgylch Argae Brenig, bydd Llwybr Cerdded yr Argae’n cymryd tua 1 awr ac mae’n berffaith i deuluoedd a’u cŵn!
• EWCH I’R LLWYBR •