Dyma’r llwybr delfrydol i ddechreuwyr, gallwch ddisgwyl i’r daith gymryd tua 15 munud, gan roi digon o amser i chi aros i fwynhau’r golygfeydd panoramig a’r holl awyr iach yna.
Os ydych am logi beic ar gyfer eich antur, mae digonedd o ddewis. Mae’r manylion isod.
Llwybr godidog trwy’r coed ac ymlaen at y golygfeydd panoramig agored sy’n cysylltu’r ddau lyn a’u llwybrau.
Cyfeirnod Map yr Arolwg Ordnans SH 96118 57146. Gofalwch am gerddwyr sy'n cerdded Llwybr Alwen gyda'r cloc.
Trwy’r coed eto, gan groesi’n syth wrth gyrraedd ffordd y goedwig, a dilyn y llwybr eto. Mae hwn yn lle da i wirio’r brêcs am ei bod hi’n gallu bod ychydig bach yn anos o hyd ymlaen!
Yn dibynnu ar y tywydd a pha mor glir yw hi, fe welwch chi'r giatiau sy'n arwain trwy warchodfa Natur Hafod Elwy wrth linell y coed.
Mae’r golygfeydd godidog yn agor allan i’r chwith ac i’r dde yn y fan yma, ac mae’n gyfle gwych i ddod oddi ar y beic a’u mwynhau! Dilynwch y marcwyr nes eich bod chi’n mynd i lawr tuag Alwen, gwiriwch y brêcs yna eto.
Parhewch i lawr y llwybr, gan ddilyn y marcwyr ac fe ffeindiwch chi’r bont bren hyfryd a fydd yn mynd â chi dros y dŵr i ddechrau dringo’r llwybr eto i Fynydd Hiraethog.
9.5m / 14.5km. Does yna’r un ffordd well o fwynhau’r awyr agored na beicio trwy’r dawelwch y goedwig a mwynhau golygfeydd o’r glannau prydferth.
• EWCH I’R LLWYBR •7m / 11km. Beiciwch ar hyd llwybr bendigedig y lan ac i ddyfnderoedd y goedwig, a darganfyddwch olygfeydd godidog wrth gwblhau Llwybr Beicio Alwen.
• EWCH I’R LLWYBR •2.5m / 4km. Darganfyddwch Lwybr Beicio’r Argae wrth ddringo’r llethrau i fwynhau golygfeydd hyfryd.
• EWCH I’R LLWYBR •