Gweithgareddau Tîm a

Chyfarfodydd

yn Llyn Brenig

Mae mynediad i Lyn Brenig am ddim

Gan Dŵr Cymru

Llogi Ystafell yn Llyn Brenig


Mae gennym amrywiaeth o ystafelloedd a mannau cynnal achlysuron i’w llogi, sy’n ddelfrydol i gynnal cyfarfodydd a gweithgareddau datblygu tîm.

Yn ein lleoliad wrth galon y Gogledd, gallwn helpu i drefnu a chynnal eich achlysur busnes perffaith. Gallwch gyrraedd y safle mewn car, ac rydyn ni’n cynnig parcio am ddim i bawb sy’n mynychu’ch achlysur. I deithwyr rhyngwladol, rydyn ni gwta 1 awr 30 munud o Faes Awyr Manceinion, ac 30 munud i’r dwyrain o Barc Cenedlaethol Eryri.

Mae pob cyfarfod ac achlysur yn amodol ar ganllawiau covid-19 cyfredol y llywodraeth.

Ein Hystafelloedd


Mae dwy ystafell ar gael i’w llogi yn Llyn Brenig.

Yn Ystafell Hiraethog, mae lle i hyd at 24 eistedd ar ffurf darlith neu 12 ar ffurf ystafell gyfarfod.

Mae Porthdy’r Goedwig yn llai, ac yn ddelfrydol i gynnal gyfarfod o hyd at 6 person, neu am weithgareddau grŵp bychain.

A chofiwch, gyda 2500 erw o le awyr agored, mae digonedd o le i gynnal sesiynau grŵp yn yr awyr agored.

Beth sy’n Gynwysedig


Parcio

WIFI

Taflunydd

Gweithgareddau

Mae gennym bopeth sydd ei hangen i gynnal cyfarfod llwyddiannus yn y Gogledd.

Mae gennym ystafell gynadledda, cymorth technegol, gweithgareddau ac arlwyaeth. Ond y peth sy’n ein gosod ar wahân i’r lleill yw’r lleoliad unigryw, y golygfeydd bendigedig a’r bywyd gwyllt a byd natur sydd o’n cwmpas.

Mae gennym wifi a’r holl dechnoleg sydd ei hangen arnoch i gynnal achlysur busnes effeithiol. Ond beth am fynd â’ch tîm oddi ar y grid i ganolbwyntio ar strategaeth busnes neu hyfforddiant? Mae astudiaethau wedi dangos bod datgysylltu o dechnoleg a threulio amser allan ym myd natur yn gwella perfformiad, creadigrwydd a chynhyrchiant.

Ar ôl treulio amser mewn ystafell gyfarfod, gallwn ni eich helpu chi i drefnu gweithgareddau a sialensiau datblygu tîm hwyliog ar y dŵr ac ar y glannau.

Bwyd a Diod

Mae angen bwydo’r awen, ac rydyn ni yma i ddarparu’r holl luniaeth sydd ei hangen arnoch yn ystod eich achlysur. Rydyn ni’n darparu ar gyfer pob chwaeth, cyllideb ac angen dietegol, ac yn cynnig amrywiaeth o fwyd poeth, bwyd bwffe, pecynnau cinio, byrbrydiau a diodydd cynnes ac oer. Rydyn ni’n ceisio defnyddio cynnyrch lleol, tymhorol lle bo modd, ac mae’r holl fwyd yn cael ei baratoi’n ffres yn ein cegin. Mae gennym sgôr hylendid bwyd 5*.

Bwcio

I logi ystafell i gynnal cyfarfod neu achlysur, ffoniwch 01490 389 227 neu e-bostiwch llynbrenig@dwrcymru.com. Byddwn ni’n hapus i ddarparu pris sydd wedi ei deilwra at eich gofynion.


ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU