Gwobrau

Diolch

yn Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Gwobrau Diolch


Ffordd i chi roi gwybod i ni fod rhywun (neu dîm o bobl) wedi rhoi gwasanaeth neilltuol i chi yw’r Gwobrau Diolch.

Gawsoch chi wasanaeth neilltuol gan ein staff yn Llyn Brenig? Hoffech chi roi gwybod iddyn nhw eu bod wedi gwneud yn dda? Gallai hyn gynwys unrhyw un yn Llyn Brenig sydd wedi mynd gam ymhellach i’ch helpu chi, er enghraifft wrth rag-weld eich anghenion ac ymateb iddyn nhw, darparu gwasanaeth neilltuol i gwsmeriaid, neu trwy roi ychydig o sglodion ychwanegol i chi yn y caffi hyd yn oed!

Bydd pawb sy’n cael eu henwebu’n cael gwybod eich bod wedi gwerthfawrogi eu hymdrechion. Mae yna wobrau misol a blynyddol hefyd lle bydd yr enillwyr yn cael llythyr i’w llongyfarch a thocynnau rhodd i gydnabod eu gwasanaeth.

• Cliciwch i Enwebu •

Uchafbwyntiau Eraill


Gwirfoddolwch

Ein nod yw creu hybiau ar gyfer iechyd, lles a hamdden i’n holl ymwelwyr eu mwynhau. Rydyn ni wrthi ar hyn o bryd yn chwilio am ffyrdd o weithio gyda gwirfoddolwyr i wireddu’r weledigaeth hon.

• MANYLION PELLACH •

Arddangosfa’r Gweilch

Lledaenwch eich adennydd i bori trwy’r arddangosfa yn y Ganolfan Ymwelwyr. Cewch ddysgu am hanes y prosiect a dilyn ein hadar ar hyd y tymhorau.

• MANYLION PELLACH •

Caffi Glan y Llyn

Mwynhewch ddiod gynnes, cacen gartref neu bryd poeth o’n bwydlen dymhorol flasus yng Nghaffi Glan y Llyn gyda golygfeydd bendigedig dros Lyn Brenig.

• MANYLION PELLACH •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR CAU