Gweilch y Pysgod Adolygiad o 2025 - Llyn-Brenig

Gweilch y Pysgod

Llwyddiant Bywyd Gwyllt

Llyn Brenig

Gan Dŵr Cymru

Prosiect Gweilch y Pysgod Brenig: Adolygiad o 2025


Bu 2025 yn flwyddyn o ddrama yn Llyn Brenig. Gyda dau gyw yn deor, yn gadael y nyth ac yn mudo, bu’n dymor bridio llwyddiannus arall i’n gweilch y pysgod. Ond mae’r stori’n dechrau gydag aderyn gwrywaidd yn achub y blaen ar ein haderyn gwrywaidd preswyl LJ2, ac yn paru â 372, sef aderyn benywaidd Brenig y llynedd …


Dechrau Dramatig: Gweilch y Pysgod yn Dychwelyd

Dechreuodd tymor 2025 yn Llyn Brenig yn llawn gobaith a chyffro.

Dychwelodd Blue 372 – yr aderyn benywaidd eofn a atgynhyrchodd yn Llyn Brenig am y tro cyntaf y llynedd – i’r nyth ar 24 Mawrth. Ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach, dyma’r aderyn gwrywaidd Blue 416 (gwrywaidd) yn cyrraedd hefyd, a dyna oedd sbardun y ddrama a welwyd ar ddechrau’r tymor. Parodd y ddau, ond erbyn 10 Ebrill, roedd ein haderyn gwrywaidd cyfarwydd a phrofiadol LJ2 wedi dychwelyd, ac yn herio i gymryd reolaeth dros y nyth. Bu tipyn o wrthdaro a mynd a dod, a hyn a ddiffiniodd wythnosau cynnar y tymor.


Brwydro Dros y Nyth a Drama’r Wyau

Cafodd yr wy cyntaf yn y nyth ei ddodwy yn hwyr ar 15 Ebrill (23:13), ond nid dyna oedd diwedd y stori. Ar 18 Ebrill, lansiodd LJ2 her arall i feddiannu’r nyth, a’r tro yma, bu’n fuddugoliaethus. Yr un noson, cafodd ail wy ei ddodwy (23:16), a thrydydd wedyn ar 21 Ebrill 23:09). Ond roedd rhagor o gythrwfl i ddod: gwrthododd LJ2 bob un o dri wy 416.

Ar 26 Ebrill (22:29), gwelwyd 372 yn dodwy ei hwy cyntaf o’r nythaid newydd gydag LJ2, gydag ail wy yn dilyn ar 30 Ebrill (21:20).


Bywyd Newydd a Thwf

Ar 2 Mehefin, deorodd y cyw cyntaf, gyda’r ail yn deor ar 5 Mehefin. Cyn pen dim, daeth y cywion, Ceridwen (7M4, credir ei bod yn fenywaidd) a Gwion (7M5, credir ei fod yn wrywaidd), yn ffocws sylw i dîm y prosiect a’r gymuned gynyddol o ddilynwyr.

Cafodd twf y cywion ei fonitro’n ofalus. Ar 11 Gorffennaf, modrwywyd y ddau: roedd Ceridwen yn pwyso 1.69kg, a Gwion 1.35kg, a’r ddau yn llewyrchu ac yn iach.


Mudo a Ffarwelio

Ar ôl dechrau hedfan ddiwedd Gorffennaf, arhosodd y teulu yng nghyffiniau nyth Brenig am bump wythnos. Wrth i ddiwedd yr haf nesáu, cychwynnodd yr adar eu patrwm mudo cyfarwydd. Gwelwyd LJ2, 372 a Cheridwen yn y nyth am y tro olaf ar 4 Medi, a gwelwyd Gwion am y tro olaf ar 7 Medi.

Daeth eu hymadawiad â phennod hynod arall yn stori Prosiect Gweilch y Pysgod Brenig i ben.

Ffrindiau’n Dychwelyd

Ffeindiodd X6 Olwen, a ddeorodd yn 2022, bartner, a nythodd yng Nghymru yn 2025. Modrwywyd X6, cyw LJ2 (gwalch y pysgod gwrywaidd eleni) ac LM6 (na ddychwelodd yn 2024) fel aderyn benywaidd, ond mae’n debyg taw aderyn gwrywaidd yw e wedi’r cyfan! Owain fydd ei enw newydd felly.

Parodd KA5 Roli, cyw Blue 24 a Blue HR7 o nyth Brenig yn 2019, â’r aderyn benywaidd 7C1 (2022) yng Ngwynedd. 9C yw ei thad, a anwyd i 11/98 a Mrs G o nyth Glaslyn.

Ymddangosodd 7B5 Dilys – un o’n cywion o 2023 – yng Nglaslyn ym mis Mai. Hyfryd gweld un arall o weilch y pysgod Brenig yn dychwelyd i Gymru!


Y Dyfodol

Edrychwn ymlaen yn eiddgar at weld gweilch y pysgod yn dychwelyd yn 2026. Rydyn ni’n gobeithio bod yn dyst i bennod ddifyr arall yn stori Prosiect Gweilch y Pysgod Llyn Brenig.


Monitro a Gweithredu Cymunedol

Sicrhaodd Prosiect Gweilch y Pysgod Brenig oruchwyliaeth barhaus dros y nyth a’i hamgylchoedd trwy systemau monitro awtomatig a gwirfoddolwyr ar lein wedi eu cydlynu gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Yn ogystal â darparu diweddariadau amserol i ddilynwyr cyfryngau cymdeithasol y prosiect, chwaraeodd eu hymroddiad diwyro a gwaith monitro diflino ran hanfodol wrth sicrhau diogelwch y safle.

Mae’r gweilch y pysgod yn denu ymwelwyr yn llu i Lyn Brenig. Yn ogystal â galw heibio i’r wylfan ar lan orllewinol y llyn sy’n cael ei staffio gan staff a gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, cafodd ymwelwyr y cyfle i arsylwi ar y gweilch y pysgod yn agos a thynnu lluniau bendigedig o’r guddfan sydd tua 150 metr o’r safle nythu. Eto gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, bu’r guddfan yn atyniad poblogaidd i adaryddwyr, naturiaethwyr a ffotograffwyr trwy gydol tymor yr haf.

Arddangosfa Gweilch Llyn Brenig

Lleolir yr arddangosfa yn y Ganolfan Ymwelwyr, lledwch eich adenydd a dewch i grwydro, dysgu am hanes y prosiect a dilyn ein hadar ar hyd y tymhorau.

• MWY •

About Llyn Brenig Ospreys

Find out more the Llyn Brenig ospreys, the history of the project and information about the Nest Cam and platform…

• MWY •

Digwyddiadau i ddod

18-20
Dec
Llwybr Goleuadau’r Nadolig a Grot Siôn Corn

Ymunwch â ni yn Llyn Brenig am noson arbennig i’r teulu’r Nadolig hwn.

• DARLLEN MWY •
28
Dec
Cystadleuaeth Pysgota Nadolig

Ymunwch â ni am Gystadleuaeth Pysgota Nadolig Llyn Brenig.

• DARLLEN MWY •
1-31
Apr   Dec
Cystadleuaeth Pysgota Tag

Ffeindiwch dag a bachwch ddiwrnod o logi cwch am ddim. Mae’n RHAD AC AM DDIM!

• DARLLEN MWY •

ANTURIAETHAU ERAILL DŴR CYMRU

BWCIO NAWR