Mae Llyn Brenig yn dathlu stori am lwyddiant bywyd gwyllt yng Nghymru eleni. Daeth y gweilch y pysgod nôl i’r llyn, a dan drefniadau diogelwch tynnach y safle, aethant ymlaen i fagu dau gyw, â’r ddau yn gadael y nyth yn llwyddiannus, a’r teulu cyfan yn mudo tua’r de i dreulio’r gaeaf mewn gwledydd mwy poeth.
‘Mae hi wedi bod yn haf digon pryderus os ydw i’n onest’ meddai Rheolwr Atyniad Ymwelwyr Dŵr Cymru yn Llyn Brenig, Nick Kite.
‘Roedd pawb yn gobeithio am dro ar fyd ar ôl dwy flynedd anodd i’r gweilch y pysgod ar y safle. A fyddai’r adar ysglyfaethus godidog yma’n dychwelyd i Lyn Brenig yn 2022? Ac os felly, a fydden nhw’n defnyddio ein platfform newydd i nythu? A fydden nhw’n magu teulu? A fyddai’r mesurau diogelwch newydd yn gweithio?’
‘Roedden ni’n obeithiol oherwydd roedden ni’n teimlo ein bod ni wedi gwneud popeth y gallem ni i gefnogi’r adar eleni, ond mae natur yn beth digon annarogan…’
Roedd Nick a’i dîm yn Llyn Brenig, ynghyd â’u partneriaid yn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt y Gogledd ac RSPB Cymru’n iawn i fod yn bwyllog, ond dechreuodd pethau’n dda yn y gwanwyn. Yr aderyn cyntaf i gyrraedd nôl o’i hafan gaeafu oedd gwalch y pysgod LJ2, a welwyd ar y nyth ar 6 Ebrill. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach, dychwelodd LM6 , ac erbyn 25 Ebrill, roedd wy cyntaf y pâr wedi ei ddodwy, daeth arall ar yr 28ain a’r trydydd wy ar 1 Mai.
Er i’r tri chyw ddeor ddechrau Mehefin, bu farw un ohonynt yn fuan ar ôl deor yn anffodus. Ond gwnaeth y rhieni newydd waith da o fagu’r ddau gyw arall, ac erbyn Gorffennaf, roedden nhw wedi troi’n adar bach cryf oedd yn bwyta llond eu boliau. Lluniodd yr ysgol gynradd leol, Ysgol Pant Pastynog restr fer o enwau gwrywaidd a benywaidd ar gyfer y ddau gyw (â’r enwau swyddogol KA9 ac X6), a thrwy bleidlais, dewiswyd Gelert ac Olwen yn y pen draw.
Gadawodd y cywion y nyth ddiwedd Gorffennaf a chyn pen dim roedden nhw’n hedfan fry dros y llyn dan lygad gofalus eu rhieni. Ychydig dros fis yn ddiweddarach, roedd y pedwar wedi mynd, gan fudo tua’r tywydd poethach yn ne Ewrop / Affrica. Gwelwyd KA9 (Gelert) ar y nyth y tro diwethaf ar 27 Awst, X6 (Olwen) ac LM6 ar 30 Awst, ac LJ2 ar 7 Medi.
‘Dau riant yn paru. Dau gyw yn hedfan y nyth. Ac ymadawiad naturiol. Mae hi wedi bod yn flwyddyn dda!’ meddai Nick.
Dychwelodd y gweilch y pysgod yn 2021, ond ym mis Ebrill cafodd y safle nythu ei ddymchwel gan fandaliaid creulon â llif gadwyn, gan ddifa’r nyth. Er i’r adar aros yn yr ardal dros yr haf, nid oedd modd iddynt fridio heb safle nythu. Ar ôl iddynt adael am y gaeaf, gosododd tîm o Openreach a GT Williams Engineering bolyn newydd am ddim, ac ar ddechrau 2022, cododd cydweithwyr o Dŵr Cymru Welsh Water blatfform newydd a’i osod yn ei le.
Yn sgil troseddau’r llynedd, codwyd ffensys ychwanegol a chyflwynwyd mesurau cudd arbennig eraill hefyd.
Rhoddodd Prosiect Gweilch y Pysgod system o oruchwyliaeth 24 awr ar waith, gan ddefnyddio gwyliadyddion awtomatig a gwirfoddolwyr ar-lein wedi eu cydlynu gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.
‘Hoffem estyn ein diolch i’n tîm o wirfoddolwyr’ meddai Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt y Gogledd Frances Cattanach. ‘Mae hi’n cymryd ymroddiad a llygad craff, yn arbennig yn y nos! Diolch i’w gwaith gofalus nhw wrth fonitro cynnydd y gweilch, bu modd i’n miloedd o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol fwynhau pwyntiau allweddol yn y tymor bridio mewn ffordd amserol. Ac fe ychwanegon nhw elfen allweddol o ddiogelwch at ein gwaith eleni hefyd.’
Mae’r gweilch y pysgod yn denu llawer o ymwelwyr i atyniad Llyn Brenig yn y gogledd. Yn ogystal â man gwylio adar sy’n cael ei staffio gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ar lan orllewinol y llyn, roedd cuddfan adarydda cudd tua 150 metr i ffwrdd o’r safle nythu’n cynnig cyfle i weld yr adar yma’n agos, a thynnu lluniau. Trefnwyd ‘Oed y Gweilch â Natur’ gyda’r RSPB a ddenodd adaryddwyr, pobl sy’n mwynhau byd natur a ffotograffwyr yn llu dros yr haf.
Yn ogystal â’r teulu bridio, galwodd gweilch y pysgod eraill draw i Lyn Brenig dros yr haf hefyd. Ar ddechrau’r tymor, gwelwyd aderyn benywaidd ifanc O19 (a ryddhawyd o Harbwr Poole yn 2019) ar y nyth. Gwelwyd Glas 551(20) o nyth Clywedog (a ddeorodd yn 2020) a Glas 416 (o Ardal y Llynnoedd) yn hedfan o gwmpas y gronfa yn ddiweddarach yn yr haf hefyd.
Lleolir yr arddangosfa yn y Ganolfan Ymwelwyr, lledwch eich adenydd a dewch i grwydro, dysgu am hanes y prosiect a dilyn ein hadar ar hyd y tymhorau.
Find out more the Llyn Brenig ospreys, the history of the project and information about the Nest Cam and platform…