Rydyn ni’n cynnal diwrnod galw heibio ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr i glywed am y gwaith diogelwch coed sydd ar y gweill yn Llyn Brenig.
Dydd Iau, 25 Tachwedd 2021 10am – 3pm yng Nghaffi Glan y Llyn
Clustnodwyd bod afiechyd hynod ddinistriol o’r enw ‘clefyd coed ynn’ yn bresennol yn rhai o’r coed ynn sy’n amgylchynu’r ganolfan ymwelwyr a maes parcio Llyn Brenig. Mae’r afiechyd hwn, sy’n cael ei achosi gan ffwng o’r enw Chalara, yn arbennig o heintus i rywogaeth coed ynn brodorol y Deyrnas Unedig, sef ‘yr onnen gyffredin’ (Fraxinus Excelsior).
Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn blaenoriaethu diogelwch ei ymwelwyr bob tro, a gwnaed y penderfyniad felly i glirio’r coed afiach oherwydd pryderon difrifol o ran diogelwch. Mae clefyd y coed ynn yn gwanhau coed ac yn gwneud strwythur y pren yn frau. Ar draws y wlad, bu rhaglenni gweladwy iawn i dorri coed i lawr lle bo perygl i’r cyhoedd, ac yn arbennig ar hyd ymyl ffyrdd a llwybrau ac mewn parciau. Pan fo onnen wedi ei heintio â’r afiechyd, mae’r goeden mewn perygl sylweddol o ddiffygion strwythurol. . Mae’r goeden yn gallu colli canghennau, neu gallai’r goeden gyfan ddisgyn gan achosi difrod ac anafiadau sylweddol.
Rydyn ni’n ymwybodol y bydd torri’r coed i lawr yn newid y dirwedd o amgylch y ganolfan, ac rydyn ni wedi cytuno ar gynllun disodli coed gyda’r contractwyr, a fydd yn cyflawni’r gwaith, sef Tilhill Forestry. Mae hyn yn cynnwys plannu amrywiaeth o rywogaethau o goed fel coed ceirios, coed afalau bychain, coed cerdin, coed gwern a choed derw cochion. Dewiswyd y rhywogaethau hyn am eu bod yn gallu gwrthsefyll yr amgylchedd garw, cynnig gwerth o ran bioamrywiaeth ac am eu hapêl esthetaidd.
Cyflawnir y gwaith dros ychydig ddyddiau ganol Rhagfyr ac eto ym mis Ionawr 2022.
Er diogelwch staff a chwsmeriaid, caiff y coed coniffer sydd wedi cyrraedd aeddfedrwydd ar safle’r gweithdy eu torri i lawr yn 2022. Mae’r conifferau bellach yn peri risg i’r adeiladau ac i’r staff sy’n gweithio ar y safle.