Rali Cambria Dewch i Gonwy yw’r diweddglo perffaith i dymor rali 2022 ym mis Hydref, a fydd yn dod â Phencampwriaeth Rali Prydain i ben mewn steil. Gyda’r posibilrwydd o weld y pencampwr yn cael ei goroni ar lan y môr Llandudno, mae’r digwyddiad yn mynd â’r cystadleuwyr ar ras trwy rai o gamau gorau’r byd yng nghoedwigoedd gogledd Cymru.
Y rhai â thocynnau Rali Cambria 2022 yn unig gaiff ddod i safle Llyn Brenig ar y diwrnod.