Nôl ar gyfer 2021!
Ymunwch â ni am Gystadleuaeth Pysgota Nadolig Llyn Brenig. Mae nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer y gystadleuaeth pysgota â phlu o’r lan yn gyfyngedig. Pris mynediad yw £25 a gallwch ddal hyd at 2 frithyll o’r lan.
Ac ar ôl y sesiwn pwyso am 2pm dewch i gynhesu yng nghaffi Llyn Brenig am fod cawl cartref a rôl yn gynwysedig yn y pris. Caiff enillwyr y gwobrau ariannol am y 1af, 2il a 3ydd eu cyhoeddi bryd hynny!
29 Rhagfyr 2021 | 10:00am – 2:00pm | £25.00